Neidio i'r prif gynnwy

Mae lefelau hapusrwydd yn cynyddu gyda'r adferiad o'r pandemig bellach yn mynd rhagddo

Cyhoeddwyd: 10 Awst 2022

Mae arolwg newydd i ymgysylltu â'r cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu er bod iechyd meddwl, hapusrwydd a gorbryder pobl wedi'u taro galetaf yn ystod gaeaf 20/21, nododd 70 y cant o'r rhai a holwyd eu bod yn teimlo'n hapus erbyn mis Mawrth 2022. 

Drwy gydol y pandemig, pobl dros 75 oed oedd hapusaf (76 y cant), o gymharu â 58 y cant o bobl 18-34 oed yn dweud eu bod yn teimlo'n hapus. Yn ogystal, nododd mwy o ddynion (69 y cant) eu bod yn teimlo'n hapus na menywod (64 y cant). 

Roedd poeni am ddal coronafeirws hefyd wedi cyrraedd uchafbwynt o amgylch mis Rhagfyr 2020/Ionawr 2021 ac yna gostyngodd yn sylweddol; gan gyd-fynd â chyflwyno'r rhaglen frechu. Parhaodd yn gymharol isel drwy gydol gweddill amser yr arolwg. 

Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2022, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu dros y ffôn i olrhain sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd. 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 27,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg, gyda thua 600-1000 o drigolion yn cymryd rhan ym mhob un o rowndiau'r arolwg. 

Meddai Karen Hughes, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Rydym am ddiolch i bobl Cymru am roi eu hamser gwerthfawr i ni er mwyn cefnogi'r gwaith hwn.  

“Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws ac ni allem fod wedi'i wneud heb gyfranogiad cynifer. 

Byddwn yn awr yn defnyddio'r wybodaeth hon wrth symud ymlaen i helpu i lywio'r adferiad parhaus a chynllunio ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol.”  

Meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Mae arolygon poblogaeth yn elfen bwysig o'r wybodaeth rydym yn ei monitro i ddeall effaith y pandemig ar iechyd meddwl yn well. Rwy'n cydnabod yr heriau ehangach y mae pobl yn eu hwynebu sy'n gallu effeithio ar lesiant, gan gynnwys ansicrwydd ariannol. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i siarad am ein hiechyd meddwl a cheisio cymorth os oes angen. Rydym yn parhau i gyllido amrywiaeth o gymorth y gellir cael gafael arno heb yr angen am atgyfeirio, naill ai dros y ffôn neu ar-lein.” 

Ymhlith y canfyddiadau allweddol eraill roedd: 

  • Roedd pryderon ariannol yn uwch yng ngaeaf 2020/21. Fodd bynnag, mae tueddiadau hefyd yn dangos cynnydd cyson mewn pryder ariannol gan ddechrau yn haf 2021 a pharhau hyd at yr arolwg diwethaf ym mis Mawrth 2022. 
  • Mae trigolion o gymunedau mwy difreintiedig ac oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi nodi eu bod yn pryderu am eu harian. 
  • Er bod hyder yng ngallu'r GIG i ofalu'n ddigonol amdanynt pe byddent yn mynd yn ddifrifol wael gyda'r coronafeirws wedi gostwng yng ngaeaf 2020/21, roedd yn uchel drwy gydol gweddill y pandemig gyda mwy na 60 y cant yn hyderus. 
  • Roedd yn ddarlun tebyg ar gyfer Llywodraeth Cymru gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cytuno eu bod wedi ymateb yn dda i'r pandemig, gyda gostyngiad yng ngaeaf 2020/21. 

Roedd arolwg ‘Sut ydym ni?’ i ymgysylltu â'r cyhoedd yn cynnwys amrywiaeth o gwestiynau craidd a holwyd ym mhob rownd o'r arolwg gyda chwestiynau eraill yn newid i fynd i'r afael â materion a ddaeth i'r amlwg. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno tueddiadau mewn ymatebion i ddetholiad o gwestiynau craidd dros y cyfnod o ddwy flynedd, gan gynnwys: poeni am y coronafeirws; iechyd meddwl a chorfforol; poeni am arian; a chanfyddiadau ynghylch yr ymateb cenedlaethol. Trafododd y gwahaniaethau mewn ymatebion yn ôl amddifadedd, rhywedd ac oedran.