Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi Cymru yn hanfodol i iechyd a llesiant

Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2021

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn galw am welliannau i effeithlonrwydd ynni stoc dai bresennol Cymru er mwyn helpu iechyd a llesiant bob dydd pobl, ac effaith yr argyfwng hinsawdd. 

Aneffeithlonrwydd ynni yw un o'r tri ffactor y mae strategaeth effeithlonrwydd ynni Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato o ran penderfynu a fydd aelwyd mewn tlodi tanwydd, ochr yn ochr ag incwm aelwyd a phrisiau ynni. Mae tai aneffeithlon yn arwain at bobl yn defnyddio mwy o ynni i wresogi eu cartrefi, sydd yn ei dro'n arwain at fwy o gostau i'r defnyddiwr, mwy o allyriadau i'r amgylchedd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, llosgi tanwydd ffosil. 

Mae'r papur trafod yn amlygu sut, ar hyn o bryd, y mae stoc dai Cymru yn un o'r lleiaf effeithlon o ran ynni yn Ewrop.  

Dyma’r negeseuon allweddol:  

  • Cymru sydd â'r stoc dai hynaf yn y Deyrnas Unedig, gyda'r gyfran isaf o anheddau ag EPC wedi'i raddio ar ‘C’ neu uwch.  
  • Yn 2018, roedd 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, sy'n cyfateb i 12 y cant o'r holl aelwydydd yng Nghymru, gydag aelwydydd yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd.  
  • O ystyried pandemig y Coronafeirws, a’i effaith ar gyllid personol a'r cynnydd yn nifer y bobl sydd gartref am gyfnodau hir, mae'n debygol y bydd y nifer hwn yn cynyddu.  
  • Yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, daw tua 15 y cant o allyriadau carbon Cymru o gartrefi. 
  • Adeiladau preswyl sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau ynni o adeiladau yng Nghymru, gydag 82 y cant o'r holl allyriadau ynni o adeiladau, a 7.5 y cant o gyfanswm allyriadau ynni Cymru, yn ôl ffigurau 2016.  
  • Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 31 y cant o ran cyfanswm yr allyriadau o adeiladau rhwng 1990 a 2016, ond mae llawer i'w wneud o hyd i wella effeithlonrwydd ynni preswyl ac felly lleihau allyriadau. 

Meddai Adam Jones – Uwch-swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae'r data diweddaraf ar effeithlonrwydd ynni ym mhreswylfeydd Cymru yn cadarnhau bod effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru wedi gwella dros y degawd diwethaf, a thai cymdeithasol sydd â'r ganran uchaf o gartrefi â sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o C neu uwch. 

“Mae'r papur hwn wedi tynnu sylw at y ffaith y gall ymdrechion i wella effeithlonrwydd ynni aelwydydd gael effaith gadarnhaol ar uchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd, a gall hefyd arwain at welliannau o ran iechyd a llesiant. Fodd bynnag, yng nghyd-destun gwella iechyd ac effeithlonrwydd ynni, mae'r sylfaen dystiolaeth yn gyfyngedig, ac mae potensial ar gyfer rhai effeithiau sy'n niweidio iechyd, fel y risg o radon y mae angen ei gydnabod. Wrth symud ymlaen, byddai gwerthusiadau o fesurau effeithlonrwydd ynni aelwydydd yn cael budd o ystyried a yw'r fenter wedi gwella iechyd y preswylydd neu ei lesiant goddrychol, a dylid annog cydnabod rhyng-gysylltiad iechyd, effeithlonrwydd ynni a llesiant economaidd unigol a chymdeithasol drwy bolisi. 

"Un ystyriaeth yw rhoi'r un pwysigrwydd ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol ochr yn ochr â rheoleiddio ar gyfer mesurau effeithlonrwydd fel safon mewn cartrefi newydd. Dylai cynnig pecyn o fesurau effeithlonrwydd ynni fforddiadwy y gellid ei fabwysiadu barhau ar gael i breswylwyr/perchnogion y stoc dai bresennol, yn enwedig y rhai â chyflyrau iechyd cronig, ynghyd â chanllawiau manwl, gwybodaeth a chyngor am effeithlonrwydd ynni.” 

Am ragor o wybodaeth: