Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth dilyniannu SARS-CoV2 Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn achrediad ISO 15189 heddiw gan Wasanaeth Achredu'r DU (UKAS).

Cyhoeddwyd: 4 Ebrill 2022

Mae gwasanaeth dilyniannu SARS-CoV2 Iechyd Cyhoeddus Cymru – sef y broses lawn sy'n nodi ac yn monitro amrywiolion Coronafeirws – wedi derbyn achrediad ISO 15189 heddiw gan Wasanaeth Achredu'r DU (UKAS).  

Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr Uned Genomeg Pathogen (PenGU), a dyma'r tro cyntaf i asiantaeth iechyd cyhoeddus yn y DU gael ei hachredu gan UKAS ar gyfer gwasanaeth dilyniannu SARS-CoV2. 

Meddai Dr Sally Corden, Pennaeth PenGU:

“Rwy'n falch iawn bod gwaith caled yr holl staff wedi cael ei wobrwyo gyda'r achrediad nodedig hwn gan UKAS.  

"Mae'r gwasanaeth yn cwmpasu dilyniannu genomau cyfan Covid, sydd wedi bod mor hanfodol i'r ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio i gadw Cymru'n ddiogel drwy'r pandemig.”