Neidio i'r prif gynnwy

Mae gan effaith Brexit ar fasnach cyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon oblygiadau o ran iechyd

Cyhoeddwyd: 14 Mehefin 2023

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi manylion am sut y mae angen rhoi sylw brys i ddeall effeithiau Brexit ar fasnach anghyfreithlon yng Nghymru i liniaru niwed iechyd posibl a marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon.  

Mae Brexit wedi newid pa gronfeydd data troseddol yr UE y gall y DU gael mynediad atynt ac mae wedi creu cyfleoedd ar gyfer mesurau rheoli ffiniau a mewnforio a pherthnasoedd masnachu gwahanol. Mae gan hyn y potensial i effeithio ar y cyflenwad o gyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon yng Nghymru yn ogystal â sut y gall y DU weithio gyda'r UE ac eraill i ganfod ac atal masnach anghyfreithlon y nwyddau hyn.  

Daw hyn pan fo disgwyl i ddau borthladd rhydd newydd gael eu sefydlu yng Nghymru. Mae porthladdoedd rhydd wedi'u cynllunio i gael llai o wiriadau a rheoliadau a'r bwriad yw rhoi hwb i fasnach ryngwladol ond gallant hefyd wynebu risg uwch o gamfanteisio troseddol oni bai bod mesurau digonol yn cael eu rhoi ar waith.  

Meddai Dr Louisa Petchey, Uwch-arbenigwr Polisi yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae marwolaethau oherwydd cyffuriau wedi cyrraedd eu lefelau uchaf erioed yng Nghymru. Mae marwolaethau oherwydd alcohol hefyd yn bryderus o uchel, a smygu yw'r prif achos o farwolaeth y gellir ei hatal yng Nghymru o hyd. Mae hyn yn gwneud canfod ac atal masnach anghyfreithlon y nwyddau hyn yn hanfodol.  

“Ond gall fod atebion. Er mwyn lleihau masnach anghyfreithlon alcohol, tybaco, a chyffuriau yn y DU a Chymru a sicrhau budd i iechyd a llesiant y boblogaeth, bydd angen i strategaethau leihau'r cyflenwad a'r galw am y nwyddau hyn, a bydd hyn yn golygu ystyried effaith bosibl Brexit ar y ddau ffactor. Mae hyn yn cynnwys deall ei effaith ar gadwyni cyflenwi, mesurau rheoli ffiniau, a chydweithrediad gorfodi'r gyfraith. Mae hefyd yn golygu ymateb i'r ffyrdd y gall Brexit fod wedi effeithio'n negyddol ar iechyd a llesiant yng Nghymru i leihau'r galw am y nwyddau hyn yn y lle cyntaf.” 

Meddai Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae alcohol a thybaco sy'n cael ei fasnachu'n anghyfreithlon yn cael effaith niweidiol ar iechyd a llesiant y boblogaeth sy'n fwy na'r risg sydd eisoes yn deillio o'u mathau cyfreithlon.   

“Mae unigolion o ardaloedd lleiaf cefnog Cymru a'r DU yn fwy tebygol o brofi canlyniadau iechyd negyddol o'r defnydd o gynnyrch anghyfreithlon, gan gynnwys marwolaethau a chyfnodau yn yr ysbyty.  Felly mae'n bwysig iawn bod strategaethau'n cael eu datblygu i leihau'r fasnach yn y cynhyrchion hyn, gan y bydd yn cael effaith gadarnhaol mewn cymunedau sy'n wynebu'r heriau mwyaf.” 

Y prif ffyrdd y mae Brexit wedi newid cydweithio rhyngwladol i fynd i'r afael â masnach anghyfreithlon yw drwy'r canlynol: 

  • Rhannu data a gwybodaeth: Nid oes gan y DU yr un mynediad at sawl un o gronfeydd data'r UE ar gyfer nodi troseddwyr a gweithgarwch anghyfreithlon ar draws Ewrop fel yr oedd ganddi cyn Brexit, ac o bosibl mae hyn yn lleihau ei gallu i ganfod ac atal masnach anghyfreithlon yng Nghymru a'r DU. 

  • Mesurau rheoli ffiniau a mewnforio: Gyda'r DU bellach y tu allan i'r UE, nid yw bellach yn cyfranogi yn y Farchnad Sengl na'r Undeb Tollau. Gallai hyn fod yn fanteisiol ar gyfer mynd i'r afael â masnach anghyfreithlon os yw nwyddau'n destun gwiriadau ychwanegol ar ffiniau'r DU. Fodd bynnag, gall cytundebau masnach rhyngwladol newydd a chynigion ar gyfer porthladdoedd rhydd yng Nghymru a'r DU greu cyfleoedd newydd y bydd troseddwyr yn ceisio manteisio arnynt i smyglo nwyddau anghyfreithlon i Gymru a'r DU.  

  • Cyflenwad a galw: Ar ôl Brexit, mae'r DU yn negodi cytundebau masnach rhyngwladol newydd, sydd â'r potensial i greu llwybrau cyflenwi newydd a chyfleoedd ar gyfer camfanteisio troseddol. Yn ogystal, mae gan Brexit hefyd y potensial i lywio'r galw am gyffuriau, alcohol, a thybaco anghyfreithlon yng Nghymru a'r DU drwy gynyddu'r risg o ddiweithdra mewn sectorau sy'n agored iawn i fasnach ac iechyd meddwl gwaeth yn sgil ansicrwydd a theimlad o beidio â bod mewn rheolaeth; mae'r rhain i gyd yn ffactorau risg ar gyfer mwy o ddefnydd a/neu gamddefnyddio.