Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffilm yn offeryn effeithiol i hyrwyddo newid ymddygiad er caredigrwydd

Cyhoeddwyd: 29 Mawrth 2022

Mae gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Bangor a Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd Iechyd Cyhoeddus Cymru (WHO CC) o ffilm fer sy'n hyrwyddo caredigrwydd yng Nghymru yn ystod cyfyngiadau COVID-19, wedi canfod bod ffilmiau sy'n ysgogi ymatebion emosiynol cryf yn dal i allu cael eu canfod yn gadarnhaol ac arwain at newid ymddygiad effeithiol. 

Mae gwerthusiad o'r ymgyrch #AmseriFodYnGaredig wedi'i gyhoeddi yn BMC Public Health, sef cyfnodolyn mynediad agored a adolygir gan gymheiriaid ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a meddygaeth.  

Mewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 olynol yng Nghymru, lansiodd Canolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE), a leolir yn WHO CC, yr ymgyrch #AmseriFodYnGaredig ym mis Mawrth 2021. Defnyddiodd yr ymgyrch ffilm fer a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol a'i hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol i annog newid ymddygiad er caredigrwydd.  

Meddai Mark Bellis, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Ceisiodd y gwerthusiad ddeall barn pobl ar y ffilm #AmseriFodYnGaredig a chanfod rhagor am farn pobl ar y ffilm, sut y gwnaeth gwylio'r ffilm iddynt deimlo ac a fyddent yn gwneud unrhyw beth yn wahanol ar ôl ei gwylio. 

“Gwelsom y gall ffilm fod yn offeryn effeithiol iawn i hyrwyddo newid ymddygiad er caredigrwydd. Gyda phandemig COVID-19 yn cyflymu symudiad ar-lein i lawer, mae canfyddiadau'r gwerthusiad presennol yn berthnasol i sut y gall negeseuon iechyd cyhoeddus addasu a defnyddio'r gofod hwn i dargedu unigolion a hyrwyddo newid ymddygiad nawr ac yn y dyfodol.”