Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyflogwyr yn pryderu mwy nag erioed am iechyd a llesiant gweithwyr

Cyhoeddwyd: 14 Hydref 2021

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y pryderon cynyddol sydd gan gyflogwyr am iechyd a llesiant meddwl a chorfforol eu gweithwyr, yn dilyn pandemig y Coronafeirws.  

Nododd ymchwil cyflogwyr a gynhaliwyd gan dîm Cymru Iach ar Waith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru rhwng mis Mawrth a mis Mai 2021 fod 73 y cant o gyflogwyr wedi datgan bod iechyd meddwl a llesiant gwael wedi dod yn fwy o broblem i weithwyr a bod cyflogwyr yn fwy pryderus nag erioed am eu rôl o ran cefnogi a rheoli hyn.  

Nododd cyflogwyr hefyd bryder am gynnydd canfyddedig mewn problemau iechyd corfforol ymhlith eu staff, yn enwedig anhwylderau cyhyrysgerbydol, a chynnydd mewn ymddygiad afiach fel yfed alcohol, diffyg ymarfer corff ac arferion bwyta afiach sy'n arwain at fagu pwysau. Mae'r rhain i gyd yn ffactorau risg ar gyfer cyflyrau iechyd cronig sy'n datblygu dros amser. 

Mae ‘Ymateb i bandemig COVID-19: Arloesedd Cyflogwyr ac Arferion Gorau' yn canolbwyntio ar effaith Coronafeirws ar y gweithlu yng Nghymru a sut y mae cyflogwyr wedi ymateb i ofynion y pandemig. Mae hyn yn cynnwys cyfres o astudiaethau achos sy'n dangos sut y mae deiliaid gwobrau Cymru Iach ar Waith wedi ymgorffori ffyrdd newydd o weithio i gefnogi eu gweithlu orau. 

Meddai Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

“Mae llawer o gyflogwyr wedi cymryd camau arloesol i ymateb i'r pandemig, gan geisio bod yn hyblyg i ddod o ffyrdd o gefnogi eu gweithlu orau. Mae hyn yn dangos y gall cyflogwyr, gyda'r arweiniad a'r cymorth gorau, ddod allan o'r pandemig wedi ymgorffori ffyrdd newydd o weithio sy'n hybu iechyd a llesiant, gan olygu eu bod mewn sefyllfa well i ymdrin â heriau'r dyfodol. 

“Bydd Cymru Iach ar Waith yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cyflogwyr i hyrwyddo, diogelu a gwella llesiant eu gweithwyr mewn byd ar ôl y pandemig. Mae hyn yn cynnwys teilwra dulliau i sectorau a maint sefydliadau, a darparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r adnoddau i gyflogwyr er mwyn iddynt ddeall anghenion llesiant eu gweithlu a'u cynorthwyo yn y ffordd orau.” 

Meddai Llinos Gutierrez-Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, enillwyr Gwobr Platinwm y Safon Iechyd Corfforaethol Cymru Iach ar Waith: 

"Mae'n bleser gennym ennill y Safon Platinwm sy'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi nid yn unig ein staff, ond hefyd cyflogwyr eraill a'n cymuned leol.  

“Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn rhan annatod o'n harferion busnes gyda nifer o fentrau nodedig yn cynnwys sicrhau effeithlonrwydd ynni a thanwydd ar draws ein maes gwasanaeth, ac rydym yn parhau i weithio i gyflawni gwell ansawdd bywyd ar gyfer ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol. 

"Roedd yn braf cael adborth mor ffafriol gan Asesydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gadarnhau ein cred bod mater cynaliadwyedd yn un sy'n cael ei ystyried yn gynhwysfawr gan ein sefydliad.” 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad cymeradwyaeth ar 8 Rhagfyr i ddathlu'r addasiadau a'r elfennau arloesol y mae cyflogwyr Cymru wedi'u rhoi ar waith yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae ceisiadau ar agor ar hyn o bryd mewn amrywiaeth o gategorïau gan gynnwys cynorthwyo iechyd a llesiant meddwl a chorfforol staff a dulliau o hybu gweithleoedd cynhwysol, amrywiol yn ogystal â chyfraniadau at fusnes cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am gyflwyno ymgais neu gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i wefan Digwyddiad Cymeradwyaeth Cymru Iach ar Waith