Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen cymorth i ddeall materion iechyd sy'n wynebu pobl ifanc

Cyhoeddwyd: 14 Ionawr 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud darn o waith i drafod materion iechyd sy'n effeithio ar bobl ifanc 11-25 oed. Nod yr astudiaeth yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu gwybodaeth ac adnoddau er budd pobl ifanc.  

Bydd yr astudiaeth yn cynnwys arolwg ar-lein a chwe grŵp ffocws i drafod agweddau tuag at faterion iechyd sy'n wynebu'r grŵp oedran hwn. Bydd barn a safbwyntiau'r grwpiau hynny yr effeithir arnynt yn rhoi dealltwriaeth hanfodol er mwyn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio rhaglenni iechyd amrywiol i bobl ifanc.  

Ar gyfer yr arolwg, hoffem glywed gan bobl ifanc 11-25 oed, a rhieni neu warcheidwaid plant 11-16 oed. Os hoffech gymryd rhan, dyma'r manylion i gael mynediad i'r arolwg perthnasol: 

Rhieni a gwarcheidwaid plant 11-16 oed:  www.PHWParentSurvey.co.uk Pobl ifanc 11-25 oed: www.PHWYoungPeopleSurvey.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer llenwi'r arolwg yw 26 Ionawr 2022. Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan BMG, asiantaeth ymchwil annibynnol, ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu trin yn gwbl gyfrinachol. Mae BMG Research yn dilyn Cod Ymddygiad Cymdeithas Ymchwil y Farchnad a chyfreithiau diogelu data ar bob adeg. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y maent yn ei wneud gyda'r wybodaeth y maent yn ei chasglu ar eu hysbysiad preifatrwydd ar eu gwefan: https://www.bmgresearch.co.uk/privacy/ 

I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg hwn a/neu'r grwpiau ffocws, gall rhieni a/neu bobl ifanc gysylltu â BMG Research ar PHWyoungpeoplesurvey@bmgresearch.com

Os yw rhieni/pobl ifanc am gadarnhau bod BMG Research yn asiantaeth ymchwil gymdeithasol ddilys, gallant ffonio Cymdeithas Ymchwil y Farchnad ar 0800 975 9596.