Cyhoeddwyd: 22 Ebrill 2024.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), ar y cyd â Revolution-ZERO, wedi cyhoeddi adroddiad heddiw sy’n tynnu sylw at y potensial i leihau allyriadau carbon labordai microbioleg drwy ymchwilio i ffyrdd o leihau plastigau untro.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos ymrwymiad ICC i gynaliadwyedd amgylcheddol ac yn amlygu’r rhan ganolog y gall camau gweithredu ar raddfa fach eu chwarae wrth liniaru ein heffaith ar y cyd ar newid hinsawdd.
Daw’r ymdrech mewn ymateb i duedd sy’n peri pryder dros y degawd diwethaf, lle mae labordai microbioleg wedi dibynnu fwyfwy ar eitemau plastig untro oherwydd arferion gwaith esblygol, argaeledd deunyddiau, a safonau iechyd a diogelwch llym. Cynhyrchodd labordai ymchwil ledled y byd 5.5 miliwn tunnell o wastraff plastig yn ystod 2014. Mae hyn yn swm syfrdanol. Ni chafodd lawer ohono ei ailgylchu oherwydd y risgiau halogi sy'n bodoli
Aeth y broblem hon yn waeth yn sgil dechrau pandemig COVID-19 yn 2020. Arweiniodd at ymchwydd sylweddol mewn plastigau untro a chyfarpar diogelu personol, a thrwy hynny gynyddu allyriadau a gwastraff mewn labordai.
Ar ôl sicrhau cyllid gan Gronfa Argyfwng Hinsawdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, ymunodd ICC â phartneriaid allanol, gan gynnwys Revolution-ZERO, Waste and Resources Action Programme (WRAP), ac Eunomia, i archwilio’r her ddifrifol hon. Er bod y prosiect yn canolbwyntio’n bennaf ar labordai ICC, mae'n bosibl y bydd modd rhoi ei ganfyddiadau a’i ddatrysiadau ar waith ar draws y sectorau gofal iechyd a gwyddoniaeth ehangach.
Dywedodd Kelly Ward, Dirprwy Bennaeth Gweithrediadau Dros Dro, Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Mae nifer o gamau gweithredu wedi'u nodi o ganlyniad i'r prosiect lle mae newidiadau wedi, ac y gellid eu gwneud, i leihau allyriadau carbon."
Cafodd hwn ei ategu gan Ben Davies, Rheolwr Cymorth Busnes yr Is-adran Microbioleg, a bwysleisiodd pwysigrwydd arferion cynaliadwy mewn gweithrediadau labordy, “Mae’r mentrau allweddol a amlygwyd yn y
prosiect yn cynnwys sefydlu grŵp labordy cynaliadwy, mabwysiadu dewisiadau amgen bioddiraddadwy fel ffyn coctel, ac ymgysylltu â darpar gyflenwyr cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy.” Yn ogystal â hyn, nododd Asesiad Cylch Oes a gynhaliwyd fel rhan o’r prosiect arbedion allyriadau sylweddol o wahanol senarios, gan gynnwys lleihau bagiau sampl/pecynnu ac ailgylchu bocsys blaenau pipedau.
Mae'r adroddiad yn nodi'r 16 o ddeunyddiau plastig untro a ddefnyddir fwyaf a'r eitemau effaith carbon uchaf a ddefnyddir yn y labordai microbioleg.
Mae’r argymhellion, a gymeradwywyd gan Fwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd ICC, yn cynnwys sefydlu grŵp gorchwyl caffael penodol, lleihau faint o bapur a ddefnyddir, a chanolbwyntio ar yr eitemau plastig untro sy’n cael yr effaith fwyaf ar garbon. Mae’n bwysig nodi bod nifer o argymhellion eisoes wedi’u rhoi ar waith, gan gynnwys treialon bach ar gyfer ailgylchu bocsys blaenau pibedau plastig a defnyddio ffyn taenu cynaliadwy.
Serch hynny, mae symud oddi wrth ddefnyddio plastig untro yn dod â heriau sylweddol, gan gynnwys llywio’r fframweithiau caffael presennol a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddi-dor. Fodd bynnag, mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y staff microbioleg yn pwysleisio'r awydd sy’n bodoli ar y cyd i hyrwyddo cynaliadwyedd mewn labordai.
Mae’r cydweithrediad hwn rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Revolution-ZERO yn gam sylweddol ymlaen wrth fynd i’r afael â heriau plastig untro a ddefnyddir mewn labordai microbioleg. Trwy harneisio arloesedd a meithrin cydweithio, mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o ddull rhagweithiol o leihau effaith amgylcheddol a hyrwyddo arferion cynaliadwy mewn lleoliadau gofal iechyd.