Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw (08.06.21) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi bod pobl ifanc a wnaeth ymdrech ymwybodol i ddefnyddio ymddygiad cadarnhaol wedi eu helpu i ddelio â'r newidiadau i'w bywydau yn ystod y pandemig.
Roedd treulio amser yn yr awyr agored, mabwysiadu meddylfryd cadarnhaol, sefydlu arferion, cynnal cyswllt â ffrindiau ar-lein a bod yn ymwybodol o natur Coronafeirws a'i ledaeniad i gyd wedi helpu i leihau effeithiau negyddol y pandemig ar iechyd meddwl.
Roedd canfyddiadau allweddol y cyhoeddiad yn cynnwys:
Meddai Nerys Edmonds, Prif Ymarferydd Asesu'r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er bod Coronafeirws yn sicr wedi cael effeithiau negyddol pellgyrhaeddol ar ein poblogaeth iau, mae'n bwysig i ni ddysgu lle mae'r effeithiau hyn wedi bod y mwyaf dwys a beth sydd wedi helpu hyd yma i liniaru'r effeithiau hyn.
“Mae ein pobl ifanc wedi dangos cydnerthedd rhyfeddol a byddwn yn archwilio beth y gellir ei roi ar waith yn awr i gefnogi eu hadferiad, eu helpu i adeiladu dyfodol hapus, yn ogystal â sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei ystyried yn llawn mewn cynlluniau ar gyfer argyfyngau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.”
Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Alma Economics i adolygu'r dystiolaeth ymchwil ar effaith pandemig y Coronafeirws a mesurau cysylltiedig y llywodraeth ar lesiant meddyliol babanod, plant a phobl ifanc.
Cafodd ‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’ ei gynnal gan ddefnyddio cyfres o ddata arolwg presennol ac astudiaethau ymchwil cyhoeddedig, i nodi heriau iechyd meddwl yr oedd pobl ifanc wedi'u profi a rhai o'r ffactorau amddiffynnol a helpodd i ddiogelu eu hiechyd meddwl drwy gydol y pandemig
Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â thystiolaeth o siarad â phobl ifanc ac athrawon yng Nghymru, yn helpu i lywio adroddiad manwl ar Asesiad Effaith ar Lesiant Meddyliol (MWIA), a fydd yn darparu argymhellion ac sydd i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.