Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth strategaethau ymdopi wahaniaeth i iechyd meddwl pobl ifanc yn ystod y pandemig

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd heddiw (08.06.21) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi bod pobl ifanc a wnaeth ymdrech ymwybodol i ddefnyddio ymddygiad cadarnhaol wedi eu helpu i ddelio â'r newidiadau i'w bywydau yn ystod y pandemig.

Roedd treulio amser yn yr awyr agored, mabwysiadu meddylfryd cadarnhaol, sefydlu arferion, cynnal cyswllt â ffrindiau ar-lein a bod yn ymwybodol o natur Coronafeirws a'i ledaeniad i gyd wedi helpu i leihau effeithiau negyddol y pandemig ar iechyd meddwl. 

Roedd canfyddiadau allweddol y cyhoeddiad yn cynnwys:

  • Arweiniodd y pandemig at rai effeithiau cadarnhaol i rai pobl ifanc (er enghraifft, teimlo rhyddhad rhag pwysau cymdeithasol a bwlio, treulio mwy o amser gyda'r teulu, dechrau hobïau newydd a chael amser i fabwysiadu ymddygiad iachach) 
  • Fodd bynnag, roedd mwyafrif helaeth y dystiolaeth yn cyfeirio at effaith negyddol ar bob agwedd ar lesiant meddyliol ymhlith plant a phobl ifanc, gan gynnwys:
    • Rhieni'n ei chael yn anodd ymdopi, ac roedd teimladau o unigrwydd a theimlo'n ynysig oherwydd cadw pellter cymdeithasol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth i bobl ifanc.
    • Roedd tarfu ar addysg, cau ysgolion, a diffyg mynediad at gymorth yn yr ysgol yn gyfrifol am lawer o'r pryderon y mae plant a phobl ifanc wedi bod yn eu profi
  • Canfuwyd mai oedran oedd un o benderfynyddion cliriaf llesiant meddyliol. Mae'r glasoed ac oedolion ifanc yn dangos iselder, gorbryder, a chanlyniadau andwyol eraill yn fwy felly nag oedolion hŷn neu gyfoedion iau 
  • Mae'r dystiolaeth yn awgrymu yr effeithiwyd yn fwy difrifol ar fenywod ifanc a merched gan y pandemig yn hytrach na'u cyfoedion gwrywaidd 
  • Mae cynnydd o ran galwadau i linellau cymorth yn nodi cynnydd posibl mewn plant a brofodd gamdriniaeth a thrais yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau, a gafodd effaith andwyol ar iechyd meddwl
  • Roedd teuluoedd ar incwm is a phobl ifanc nad oeddent mewn addysg na chyflogaeth wedi profi effaith andwyol y pandemig yn llawer mwy difrifol
  • Ymhlith y ffactorau a liniarodd rai o oblygiadau negyddol y pandemig roedd treulio amser yn yr awyr agored, sefydlu arferion, a bod yn ymwybodol o natur y feirws a'i ledaeniad
  • Gallai'r gwelliant mewn mesurau llesiant ar gyfer pob grŵp oedran ar ddiwedd haf 2020 (pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio ac ailagor ysgolion yn llawn), awgrymu y gallai rhai o effeithiau negyddol y pandemig fod yn fyrhoedlog. Fodd bynnag, mae angen dadansoddiad pellach o ddata o'r cyfnod cyfyngiadau symud diweddaraf er mwyn deall yr effeithiau'n llawn.

Meddai Nerys Edmonds, Prif Ymarferydd Asesu'r Effaith ar Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Er bod Coronafeirws yn sicr wedi cael effeithiau negyddol pellgyrhaeddol ar ein poblogaeth iau, mae'n bwysig i ni ddysgu lle mae'r effeithiau hyn wedi bod y mwyaf dwys a beth sydd wedi helpu hyd yma i liniaru'r effeithiau hyn.

“Mae ein pobl ifanc wedi dangos cydnerthedd rhyfeddol a byddwn yn archwilio beth y gellir ei roi ar waith yn awr i gefnogi eu hadferiad, eu helpu i adeiladu dyfodol hapus, yn ogystal â sicrhau bod iechyd meddwl yn cael ei ystyried yn llawn mewn cynlluniau ar gyfer argyfyngau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.”

Comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru Alma Economics i adolygu'r dystiolaeth ymchwil ar effaith pandemig y Coronafeirws a mesurau cysylltiedig y llywodraeth ar lesiant meddyliol babanod, plant a phobl ifanc.

Cafodd ‘Effaith pandemig COVID-19 ar lesiant meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru: adolygiad llenyddiaeth’ ei gynnal gan ddefnyddio cyfres o ddata arolwg presennol ac astudiaethau ymchwil cyhoeddedig, i nodi heriau iechyd meddwl yr oedd pobl ifanc wedi'u profi a rhai o'r ffactorau amddiffynnol a helpodd i ddiogelu eu hiechyd meddwl drwy gydol y pandemig

Bydd yr adroddiad hwn, ynghyd â thystiolaeth o siarad â phobl ifanc ac athrawon yng Nghymru, yn helpu i lywio adroddiad manwl ar Asesiad Effaith ar Lesiant Meddyliol (MWIA), a fydd yn darparu argymhellion ac sydd i'w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddiadau