Neidio i'r prif gynnwy

Gwaethygodd cyfraddau goroesi canser tymor byr yn gynnar yn y pandemig, cyn gwella erbyn 2021

Cyhoeddwyd: Dydd Mercher 26 Mawrth 2025

Mae'r ystadegau swyddogol diweddaraf gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datgelu bod y gwelliant hanesyddol yn y cyfraddau goroesi canser un flwyddyn ar draws poblogaeth gyfan Cymru wedi stopio ymhell cyn y pandemig.

Gostyngodd cyfraddau goroesi canser flwyddyn ar ôl diagnosis yn sylweddol i 71.9 y cant yn 2020, cyn codi i 75.2 y cant yn 2021. Mae hyn yn nodi adferiad tuag at lefelau cyn y pandemig.

Canfyddiad allweddol arall yw bod 63.1 y cant o gleifion 15-99 oed, a gafodd eu diagnosis rhwng 2017 a 2021, wedi goroesi eu canser bum mlynedd ar ôl y diagnosis. Fodd bynnag, mae'r gyfradd hon wedi aros yn sefydlog heb wella ers cyfnod diagnosis 2014-18. Cyn hynny, roedd cyfraddau goroesi canser pum mlynedd wedi bod yn gwella'n gyson ers nifer o ddegawdau.

Mae gwahaniaethau goroesi rhwng gwahanol fathau o ganser. Er enghraifft, ers y pandemig, ni wnaeth cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint un flwyddyn wella cystal â phrif fathau eraill o ganser.

Mae'r ystadegau’n datgelu anghydraddoldebau amlwg mewn cyfraddau goroesi. O ran pobl a gafodd eu diagnosis rhwng 2017 a 2021, goroesodd 70.1 y cant o'r rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig ganser am bum mlynedd, o'i gymharu â dim ond 51.8 y cant o’r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Prin y mae’r bwlch hwn wedi newid ers 2002-2006.

Gall tueddiadau mewn anghydraddoldebau goroesi yng Nghymru fod yn wahanol iawn, gan ddibynnu ar y math o ganser.

Ar gyfer canser y coluddyn (y colon a'r rhefr), y gyfradd oroesi pum mlynedd oedd 66.0 y cant i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, o'i gymharu â 49.1 y cant i’r rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r bwlch anghydraddoldeb hwn yn ehangach nag ar gyfer y cyfnod diagnosis blaenorol. Mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint deng mlynedd wedi gwella'n fawr yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig (o 8.3 y cant i 14.7 y cant), ond dim ond ychydig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (o 6.8 y cant i 8.5 y cant), gan ehangu anghydraddoldebau.

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru: "Mae'r anghydraddoldebau yng nghyfraddau goroesi canser Cymru – sy'n ehangu mewn rhai achosion – yn bryderus.

"Er gwaethaf degawdau lawer o welliant cyson mewn goroesiad canser yn gyffredinol, mae’n hefyd yn destun pryder fod y gwelliant sylweddol hwnnw wedi stopio nifer o flynyddoedd cyn y pandemig.

"Er hynny, er i gyfraddau goroesi canser yng Nghymru ostwng yn gynnar yn y pandemig, mae'n galonogol fod cyfraddau goroesi sawl math o ganser eisoes yn gwella erbyn 2021."

Mae Uned Gwybodaeth a Gwybodaeth Canser Cymru’n casglu data canser ar draws y boblogaeth gan ddefnyddio lawer o ffynonellau'r GIG, ymysg rhai eraill. Mae staff hyfforddedig a systemau awtomataidd yn gwirio ac yn cofnodi'r wybodaeth yn unol â safonau rhyngwladol cydnabyddedig gan ddefnyddio rheolau diogelu data.

Mae hyn yn creu cofrestrfa canser ddibynadwy y gellir ei chymharu â data cofrestrfa gwledydd eraill a gesglir yn yr un modd. Dim ond oherwydd y data cofrestrfa safon aur hwn y gall uned Cymru gymryd rhan mewn ystod o astudiaethau goroesi canser rhyngwladol hanfodol.

Ychwanegodd yr Athro Dyfed Wyn Huws: "Mae ein cydweithrediadau ymchwil rhyngwladol niferus wedi dangos fod gan Gymru eisoes ganlyniadau canser cymharol wael cyn y pandemig o gymharu â llawer o wledydd incwm uchel eraill.
"Yn ffodus, fe wnaethom ymchwilio hefyd i'r hyn oedd y tu ôl i’r canlyniadau, ac mae’r cyfan yn cael ei daclo: diagnosis cynharach trwy ymwybyddiaeth well o symptomau, a gwell mynediad at feddygfeydd a phrofion diagnostig. Mae mynediad gwell a phrydlon at driniaethau effeithiol presennol a newydd yn bwysig hefyd. Ac mae'n hanfodol nad yw pobl mewn cymunedau difreintiedig a grwpiau bregus ac agored i niwed yn cael eu gadael ar ôl.

"Yn olaf, mae atal canser trwy fynd i'r afael ag achosion cymdeithasol craidd iechyd gwael, y ffactorau risg maen nhw'n eu hachosi, ac anghydraddoldebau yn allweddol. Mae ein hastudiaethau wedi dangos y posibilrwydd o atal hyd at 4 o bob 10 achos o ganser. Mae rhaglenni sgrinio a brechu canser Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu'n gyson – maent yn chwarae rhan hanfodol wrth atal canser a chael diagnosis cynnar."

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WICISU) Dolenni

Goroesi canser (Cymraeg)

Offeryn Adrodd ar Ganser (Cymraeg)