Cyhoeddwyd: 7 Rhagfyr 2022
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod y tymor ffliw yng Nghymru wedi dechrau'n gynharach na'r arfer eleni. Mae'n golygu y gall lefelau ffliw yn y gymuned gyrraedd uchafbwynt o amgylch y Nadolig. Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn annog y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig nawr, er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag mynd yn ddifrifol wael gyda ffliw y Nadolig hwn.
Mae dal ffliw yn cynyddu'r risg o fynd yn ddifrifol wael gyda heintiau eilaidd, felly un o'r camau y gallwch eu cymryd i amddiffyn eich plant a phob aelod agored i niwed o'ch teulu yn erbyn heintiau fel Strep A, yw manteisio ar y cynnig o frechlyn ffliw am ddim ar gyfer eich plentyn ac unrhyw oedolyn cymwys.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae ffliw wedi'i ganfod yn mynd ar led yn y gymuned yng Nghymru. Mae achosion hefyd wedi'u cadarnhau mewn cleifion sy'n mynd i ysbytai. Bydd cael y brechlyn ffliw yn helpu i amddiffyn unigolion a hefyd y GIG drwy'r hyn sy'n debygol o fod yn aeaf heriol. Yn ogystal â ffliw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn canfod lefelau uchel o feirysau anadlol eraill yn mynd ar led yn eang yn y gymuned. Mae Cymru eisoes yn profi ei hail dymor o RSV* eleni (achos cyffredin o fronciolitis mewn plant bach a phlant ifanc).
Ers mis Mawrth 2020, amharwyd ar batrwm lledaenu arferol llawer o feirysau anadlol ac wrth i'n bywydau fynd yn ôl i'r arfer, mae rhai feirysau'n dychwelyd mewn niferoedd uwch.
Mae ffliw yn salwch difrifol a all ladd. Gwelir marwolaethau a chanlyniadau difrifol haint ffliw ym mhob tymor. Yn y tymor diwethaf lle gwelwyd lefelau uchel o gylchrediad (yn 2017/18) roedd nifer y marwolaethau tymhorol ychwanegol amcangyfrifedig yng Nghymru yn ystod y gaeaf yn 3,400, yr uchaf ers dros 20 mlynedd. Ni fyddai'r holl farwolaethau hyn wedi digwydd oherwydd clefyd anadlol, ond amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod 34.7% o farwolaethau ychwanegol a nodwyd yng Nghymru a Lloegr y gaeaf hwnnw wedi cael eu hachosi gan glefyd anadlol. Roedd y nifer uchaf o farwolaethau wythnosol yn cyd-fynd â'r wythnos pan oedd gweithgarwch ffliw ar ei anterth.
Y brechlyn ffliw yw'r ffordd fwyaf effeithiol o atal cael eich heintio â ffliw. Mae ei sgil-effeithiau yn ysgafn ac fel arfer dim ond yn para am ychydig ddyddiau. Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau er mwyn helpu i leihau lledaeniad.
Meddai Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru; “Gall ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i ffliw. Rydym yn aml yn cymdeithasu mwy adeg y Nadolig ac yn fwy tebygol o weld perthnasau oedrannus sy'n agored i niwed. Brechiadau yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain ac anwyliaid rhag mynd yn ddifrifol wael y gaeaf hwn.”
Yn ogystal, mae rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 bellach yn fyw ac mae llawer o bobl gan gynnwys pawb dros 50 oed, a'r rhai sy'n wynebu risg o salwch difrifol wedi cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19. Mae ystadegau a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos hon yn dangos bod dros filiwn o bobl yng Nghymru bellach wedi cael eu brechiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref hwn.
I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’
Mae brechlynnau ffliw ar gael am ddim gan eich meddyg teulu lleol a hefyd gan lawer o fferyllfeydd cymunedol. Os ydych yn perthyn i grŵp cymwys, ewch i'ch meddygfa, neu siaradwch â'ch fferyllfa gymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau, ewch i