Neidio i'r prif gynnwy

Erthygl cyfnodolyn yn nodi'r ymagwedd newydd tuag at reoli ansawdd aer yn lleol

Mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ymchwil newydd i wella polisi a gweithredu i wella rheolaeth ansawdd aer lleol yng Nghymru.

Yn eu papur diweddar yn Environmental Science and Policy, mae’r Ymgynghorwyr Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, Dr Huw Brunt a Dr Sarah Jones, yn cynnig ymagwedd newydd tuag at asesu risg o ran rheoli ansawdd aer lleol.

Am y tro cyntaf, mae hyn yn hybu ystyriaeth o beryglon llygredd aer mewn cyd-destun iechyd y cyhoedd ehangach. Mae’r dull newydd, a elwir yn Asesu Risg o ran Iechyd a Llygredd Aer /Blaenoriaethu Ardal (HAP-RAP), yn tywys defnyddwyr trwy’r cysylltiadau data a’r technegau graddio er mwyn nodi a blaenoriaethu cymunedau ‘mewn perygl’ yn seiliedig ar lygredd aer ac anghenion iechyd y cyhoedd.

Cafodd y dull, a ddyluniwyd i fodloni bwlch o ran prosesau rheoli ansawdd aer presennol, ei ddatblygu trwy bartneriaeth o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Cynghorau Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Dr Huw Brunt: “Mae’r ymagwedd newydd hon yn cydnabod pwysigrwydd asesu a deall y berthynas rhwng problem llygredd aer a blaenoriaethau iechyd y cyhoedd cysylltiedig eraill.

“Gall defnyddio HAP-RAP fel mater o dref ein helpu i gysylltu gweithgareddau rheoli ansawdd aer â pholisi ac ymarfer ehangach.  Ein gobaith yw y bydd hyn yn arwain at waith mwy effeithiol, effeithlon a chydweithredol ar draws sectorau.  Gallai hefyd greu cyfleoedd newydd ar gyfer atebion mwy arloesol.”

Mae’r offeryn eisoes wedi cael ei roi ar brawf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.  Mae ei gymhwyso yn ymarferol wedi cael ei werthuso gan ddefnyddwyr, ac mae ei gyfraniad at Nodau Llesiant Cymru hefyd yn cael ei asesu.

Mae’r gwaith hwn yn datblygu ymchwil gynharach a wnaed gan yr awduron i archwilio ac esbonio rhyngweithio rhwng llygredd aer, amddifadedd ac iechyd yng Nghymru. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu y gall y cymunedau mwyaf difreintiedig mewn cymdeithas gael eu heffeithio’n anghymesur gan gyswllt â llygredd aer oherwydd ‘perygl triphlyg’ lle mae ffactorau’n cyfuno i addasu’r effeithiau.

Ychwanegodd Dr Sarah Jones: “Mae’r ymagwedd hon yn datblygu’r fframwaith deddfwriaethol unigryw a’r cyfleoedd i wneud gwelliannau y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu cynnig i ni yng Nghymru.

“Mae HAP-RAP yn cyfrannu at gyflwyno bob un o’r saith nod llesiant ac rydym bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu’r gwaith a ddechreuwyd yng Nghwm Taf trwy wneud yr offer ar gael i’w defnyddio ar draws Cymru.”