Neidio i'r prif gynnwy

Disgwyliad oes yn disgyn i fenywod mewn ardaloedd difreintiedig

Cyhoeddwyd: 9 Rhagfyr 2022

Yn ôl erthygl a gyhoeddwyd yn y Cyfnodolyn Iechyd Cyhoeddus, efallai fod y pandemig wedi gwaethygu tuedd a oedd eisoes yn bryderus, sef bwlch cynyddol mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru, gyda thueddiadau arbennig o amlwg i fenywod.

Mae'r papur gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn manylu ar sut roedd y bwlch mewn disgwyliad oes wedi ehangu ymhlith y ddau ryw yn 2002-20. Sbardunwyd hyn gan fwy o ostyngiad mewn disgwyliad oes ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda gostyngiad mwy serth eto ar gyfer menywod yn y cyfnod diweddaraf 2018-20. 

Yn y cyfnod hwn, cododd y bwlch mewn disgwyliad oes i fenywod yng Nghymru o 4.7 mlynedd yn 2002-04 i 6.3, a chododd disgwyliad oes i ddynion yng Nghymru o 6.4 mlynedd i 7.6 mlynedd.

Meddai Ciarán Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae bywydau llawer sy'n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael eu torri'n fyr yn rhy gynnar, ac mae hyn yn gwaethygu. Mae'r ymchwil yn ein cyfeirio at fannau lle y gallwn wneud gwahaniaeth. Mae gan gofal iechyd rôl i'w chwarae, ac mae gan gryfhau ein hymdrechion iechyd cyhoeddus y potensial ar gyfer hyd yn oed mwy o effaith wrth fynd i'r afael â'r bwlch hwn. Fodd bynnag, mae'r cyfraniad mwyaf at y bwlch hwn o ran pa mor hir mae pobl yn byw i'w ganfod y tu hwnt i'r gwasanaethau a'r rhaglenni hyn, ac mae'n ymwneud â blociau adeiladu sylfaenol iechyd, yr amodau yr ydym yn cael ein geni, yn byw, yn gweithio ac yn tyfu ynddynt.  Heb y blociau adeiladu hyn - fel cael digon o arian i brynu'r bwyd sydd ei angen arnom, a chartrefi cynnes a diogel, mae ein hiechyd meddwl a chorfforol yn dioddef.

“Rydym yn credu, er mwyn mynd i'r afael â'r gwahaniaethau annheg hyn o ran colli bywyd, bod angen gweithredu clinigol, iechyd cyhoeddus a thraws-sectoraidd arnom ar anghydraddoldebau iechyd, wedi'u cefnogi gan amgylchedd polisi sy'n blaenoriaethu tegwch iechyd ym mhob polisi. Wrth i ni wynebu'r argyfwng costau byw hwn, mae angen i ni weithredu gyda'n gilydd ar draws y penderfynyddion ehangach hyn sy'n llywio ein hiechyd a'n llesiant yn sylfaenol.”

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Roedd dros flwyddyn o'r bwlch mewn disgwyliad oes o ganlyniad i farwolaethau yr ystyrir bod modd eu trin gan ofal meddygol ar gyfer dynion a menywod, yn bennaf oherwydd marwolaethau'n gysylltiedig â chyflyrau cylchredol, anadlol a chanser. Prin fu'r newid yn y bwlch hwn yn y cyfnod
  • Roedd cyfraniad mwy o farwolaeth y gellir ei hatal gan ymyriadau iechyd cyhoeddus, sef tua 2 flynedd ar gyfer menywod a 3.5 mlynedd ar gyfer dynion, heb newid llawer yn y cyfnod, gan gynnwys marwolaethau'n ymwneud â chyflyrau cylchredol, anadlol, alcohol a chyffuriau a chanser. 

Meddai Jonny Currie, Darlithydd Clinigol Anrhydeddus, Is-adran Meddygaeth Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd:

“Fodd bynnag, roedd y cynnydd mwyaf mewn marwolaethau o achosion nad oedd modd eu trin yn uniongyrchol gan wasanaethau meddygol nac y gellir eu hatal drwy raglenni iechyd cyhoeddus. Gwelodd y categori hwn gynnydd mewn cyfraniad o 1.6 i 2.7 mlynedd ar gyfer menywod rhwng 2002-04 a 2018-20 ac o 1.6 mlynedd i 2.4 mlynedd ar gyfer dynion, wedi'i sbarduno'n rhannol gan gynnydd mewn marwolaethau ymhlith oedolion dros 75 oed ond hefyd o lu o achosion nad ydynt wedi'u diffinio'n llym fel rhai y gellir eu hosgoi, er gwaethaf graddiant economaidd-gymdeithasol clir mewn marwolaethau o'r fath.”

Cyfraniad marwolaethau y gellir eu hosgoi at anghydraddoldebau disgwyliad oes yng Nghymru: dadgyfansoddiad yn ôl oedran ac achos rhwng 2002 a 2020 | Cyfnodolyn Iechyd Cyhoeddus | Oxford Academic (oup.com)