Ym mwyafrif yr achosion (16,179 o bobl) roedd yr wybodaeth yn cynnwys eu blaenlythrennau, dyddiad geni, ardal awdurdod lleol a rhyw. Fodd bynnag, ar gyfer 1926 o bobl sydd naill ai’n byw mewn lleoliad caeedig fel cartrefi nyrsio/tai â chymorth neu sy’n rhannu’r un cod post â’r lleoliad caeedig, roedd yr wybodaeth hefyd yn cynnwys enw’r lleoliad yn berthnasol i’r cod post hwnnw. Nid oedd yn cynnwys rhif GIG y person ac nid ydym yn credu y byddai wedi bod yn bosib gweld cofnodion iechyd neu ariannol eraill gan ddefnyddio’r data hyn yn unig. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod datgelu unrhyw wybodaeth bersonol gyfrinachol yn debygol o achosi pryder mawr ymhlith y rhai sydd wedi’u heffeithio ac mae’n ddrwg iawn gennym ni bod hyn wedi digwydd.