Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i sicrhau eu bod wedi cael y brechlyn MMR wrth iddo ymchwilio i achosion tybiedig o glwy'r pennau mewn prifysgolion yng Nghymru.
Ar 16 Hydref, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael gwybod am 28 o achosion tybiedig o glwy'r pennau ymhlith pobl sy'n mynd i brifysgolion yng Nghaerdydd a Chwm Taf.
Mae'r brechlyn MMR yn diogelu yn erbyn heintiau'r frech goch, clwy'r pennau a rwbela ac fe'i rhoddir fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio plentyndod arferol.
Dywedodd Dr Rhianwen Stiff, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r brechlyn MMR yn eithriadol o effeithiol o ran diogelu rhag y frech goch a rwbela, gyda 99 y cant o'r rhai sydd wedi cael dau ddos wedi'u diogelu am flynyddoedd lawer.
“Mae un dos o MMR yn diogelu tua 65 y cant o'r rhai sy'n ei dderbyn yn erbyn clwy'r pennau, gydag ail ddos o'r MMR yn gwella imiwnedd i tua 85 y cant o dderbynwyr. Felly mae'n bosibl gweld clwy'r pennau mewn unigolion sydd wedi cael eu brechu gydag MMR.
“Mae clwy'r pennau yn ymledu drwy beswch a thisian ac yn uniongyrchol drwy gyswllt â phoer person heintus megis drwy rannu diodydd neu gusanu. Ymysg y symptomau mae chwyddo ar ongl yr ên ar un neu ddwy ochr yr wyneb.
“Mae'n bwysig bod pobl â chlwy'r pennau tybiedig yn cadw draw o'r brifysgol a digwyddiadau cymdeithasol am bum diwrnod ar ôl i'w symptomau ddechrau, golchi eu dwylo'n aml ac yn enwedig ar ôl chwythu eu trwyn a pheidio â rhannu eitemau fel poteli dŵr neu sigaréts ag eraill.”
Gall y chwyddo ar yr wyneb gael ei ragflaenu gan sawl diwrnod o symptomau cyffredinol fel twymyn, pen tost, blinder, poenau yn y cyhyrau, a cholli archwaeth.
Dylai unrhyw un sydd â'r symptomau hyn weld eu meddyg teulu ac aros i ffwrdd o'r ysgol neu'r gwaith tan bum diwrnod ar ôl dechrau'r chwyddo pan nad ydynt yn heintus mwyach.
Mae ymchwiliadau'n parhau, a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i fonitro'r sefyllfa.
Ceir rhagor o wybodaeth am glwy'r pennau yn: