Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad newydd yn datgelu anghydraddoldebau o ran gofal iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru

Mae Labordy Data Rhyngweithiol (NDL) y Sefydliad Iechyd wedi dadansoddi data ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban i ddatgelu canfyddiadau newydd am blant a phobl ifanc sy'n cael cymorth iechyd meddwl. Mae dadansoddiad gan dimau lleol gan gynnwys yng Nghymru, yn tynnu sylw at dri maes i ymchwilio ymhellach iddynt, yn genedlaethol ac yn lleol1:

  1. Mae'r defnydd o feddygon teulu a meddyginiaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl yn tyfu yn yr ardaloedd a ddadansoddwyd gan dimau NDL  
  2. Mae cyfran uwch o ferched y glasoed a menywod ifanc yn cael gwrth-iselyddion, mewn cysylltiad â gwasanaethau cymorth ac yn profi argyfyngau iechyd meddwl yn fwyaf aml  
  3. Mae'r data yn dangos gwrthgyferbyniad llwyr mewn amddifadedd economaidd-gymdeithasol, gyda mwy o bresgripsiynau ac argyfyngau iechyd meddwl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig

Dangosodd y data ar gyfer Cymru mai2 : 

  • Merched y glasoed 16–19 oed oedd y grŵp a gyflwynodd amlaf gydag argyfyngau iechyd meddwl i wasanaethau acíwt. 
  • Yn 2019, roedd merched (11–15 oed) a menywod ifanc (16–19 oed) ddwywaith yn fwy tebygol o gyflwyno gydag argyfyngau na bechgyn a dynion ifanc o'r un oedran. 
  • Roedd cyfraddau digwyddiadau argyfwng hefyd wedi'u patrymu'n gryf gan amddifadedd cymdeithasol, gyda phlant a phobl ifanc sy'n byw yn y 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru â bron dwbl y gyfradd o ddigwyddiadau argyfwng o gymharu â'r rhai sy'n byw yn yr 20% o ardaloedd lleiaf difreintiedig

Ledled y DU, mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl yn cynyddu ledled y DU. Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn ehangu, ond nid ydynt yn ehangu'n ddigon cyflym i ddiwallu anghenion cynyddol, gan adael llawer o blant a phobl ifanc heb lawer o gymorth neu ddim cymorth o gwbl. Mae hefyd yn dangos nad oes digon o wybodaeth am bwy sy'n derbyn gofal ac, yn hanfodol, pwy nad ydynt yn derbyn gofal.  

Mae awduron yr adroddiad yn galw am ragor o adnoddau i'w targedu at atal ymhlith y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddatblygu salwch meddwl. Maent yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn debygol y bydd angen cymorth ychwanegol ar bractisau cyffredinol, gan eu bod yn wynebu prinder andwyol o ran gweithlu tra hefyd yn chwarae rôl gynyddol o ran rheoli a gofal i blant a phobl ifanc â chyflyrau iechyd meddwl. Bydd gwelliannau o ran casglu data, ansawdd a dadansoddi hefyd yn hanfodol i lywio penderfyniadau polisi ynghylch lle mae angen i wasanaethau ehangu er mwyn diwallu anghenion a lleihau anghydraddoldebau iechyd.  

Dywedodd yr Athro Alisha Davies, Arweinydd y Prosiect, Labordy Cymru:  

‘Mae NDL Cymru wedi dangos potensial data cysylltiedig, drwy ddod â data ynghyd o bob rhan o'r system gofal argyfwng i ddeall iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru yn well. Gan weithio ar y cyd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, mae'r cwestiynau sy'n cael sylw yn cael eu hysgogi gan flaenoriaethau lleol, a'r canfyddiadau a gynhyrchir yn cyfrannu at y dystiolaeth sydd ei hangen i lywio gweithredu.’   

Meddai Charles Tallack, Cyfarwyddwr Dadansoddeg Data yn y Sefydliad Iechyd:   

‘Mae'r dadansoddiad yn dangos, er mwyn gwella iechyd meddwl plant a phobl ifanc, fod angen ymchwilio ar fyrder i'r dirywiad mewn iechyd meddwl menywod ifanc, ysgogwyr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol amlwg, a'r twf cyflym mewn rhagnodi a'r defnydd o gymorth meddygon teulu nid dim ond yn yr ardaloedd a gymerodd ran yn y dadansoddiad hwn, ond ledled y DU. Mae angen cymorth iechyd meddwl ar blant a phobl ifanc yn fwy nag erioed, ond mae bylchau mewn data'n golygu nad ydym yn gwybod digon am ble mae'r angen mwyaf am wasanaethau.   

‘Rydym eisoes yn gwybod bod nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl yn amrywio yn ôl rhywedd, oedran, ac amddifadedd economaidd-gymdeithasol ond nid oes data ar bwy sy'n cael cymorth ar gael yn eang ac ar hyn o bryd nid yw'n ddigon manwl i ddangos yr amrywiad yn ôl y nodweddion hyn. Bydd data a dadansoddiad o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol wrth dargedu ymyriadau ataliol, cynllunio gwasanaethau'n well ac, yn y pen draw, gwella iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod ardaloedd lleol yn cael eu cefnogi i wneud defnydd gwell o ddata er mwyn helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.’  

Gellir gweld y dadansoddiad NDL llawn yma: Improving children and young people’s mental health services 

Ynghylch y Labordy Data Rhwydweithiol  

Mae'r Labordy Data Rhyngweithiol yn rhwydwaith cydweithredol o dimau dadansoddol uwch ledled y DU. Dan arweiniad y Sefydliad Iechyd, rydym yn gweithio gyda'n gilydd ar heriau a rennir ac yn hyrwyddo'r defnydd o ddadansoddeg i wella iechyd a gofal cymdeithasol. Gan ddefnyddio data cysylltiedig, ein nod yw deall a datrys y problemau iechyd a gofal anoddaf sy'n wynebu'r DU heddiw.    

Mae'r Labordy Data Rhwydweithiol yn cynnwys y partneriaid canlynol:   

  • Canolfan Aberdeen ar gyfer Gwyddor Data Iechyd (ACHDS) sy'n cynnwys NHS Grampian a Phrifysgol Aberdeen      
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe (Cronfa Ddata SAIL) a Gofal Cymdeithasol Cymru)    
  • Partneriaid Iechyd Coleg Imperial (ICHP), Sefydliad Arloesedd Iechyd Byd-eang (IGHI), Coleg Imperial Llundain (ICL), a CCGs Gogledd-orllewin Llundain    
  • CCG Lerpwl a'r Healthy Wirral Partnership   
  • CGC Leeds a Chyngor Dinas Leeds

Ynghylch y Sefydliad Iechyd   

Mae'r Sefydliad Iechyd yn elusen annibynnol sy'n ymrwymedig i sicrhau gwell iechyd a gofal iechyd i bobl yn y DU.  

www.health.org.uk