Gall bod yn rhiant fod yn anodd. Mae bod yn rhiant yn ystod y cyfyngiadau symud yn anos fyth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig i bob rhiant, darpar riant, teidiau a neiniau a phobl sy’n rhoi gofal fynediad am ddim i gyfres o gyrsiau ar-lein sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i ddeall cerrig milltir datblygiadol ac emosiynol eu plant, gan roi sylw i bopeth o’r cyfnod cyn-geni i ddiwedd yr arddegau.
Mae’r pedwar cwrs seiliedig ar dystiolaeth wedi cael eu cynllunio gan y GIG ac arbenigwyr eraill er mwyn darparu cefnogaeth ychwanegol i bawb, ochr yn ochr â help mwy traddodiadol gan deulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol.
Dywedodd Amy McNaughton, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae perthnasoedd teuluol iach yn bwysig i gefnogi lles a datblygiad plant, yn enwedig ym mlynyddoedd cynharaf eu bywyd.
“Mae teuluoedd yng Nghymru’n byw drwy gyfnod rhyfeddol. Does dim posib pwysleisio digon ei bod yn gwbl normal bod angen help; ac mae’n iawn gofyn am help a’i dderbyn.”
Lansio ar y dechrau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae’r gwasanaeth dwyieithog wedi cael ei fabwysiadu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am gyfnod prawf o 12 mis i ddechrau. Yn ystod y cyfnod yma, gall pob rhiant yng Nghymru wneud defnydd o wefan ‘Yn Ein Lle’ am ddim.
“Bydd y cyrsiau hawdd eu defnyddio’n rhoi help a chefnogaeth ychwanegol i rieni i ddeall eu perthnasoedd gyda’u plant wrth iddyn nhw addasu i’r newidiadau i drefn y teulu,” meddai Mrs McNaughton wedyn.
“Mae’r cyrsiau’n edrych ar bynciau fel chwarae, dulliau magu plant, cwsg, pyliau o dymer, cyfathrebu a mwy, ac maen nhw i gyd ar gael ar-lein o nawr tan fis Mai 2021.”
I gael mynediad, y cyfan sydd raid i ddefnyddwyr ei wneud yw mynd i www.inourplace.co.uk a defnyddio’r cod ‘NWSOL’ os ydynt yn byw yng Ngogledd Cymru, a ‘SWSOL’ os ydynt yn byw yng Nghanolbarth, Gorllewin a De Cymru. Wedyn dewis y cyrsiau sydd fwyaf perthnasol i’w plentyn neu eu plant, sydd wedi’u rhannu’n bedair adran hawdd eu defnyddio sy’n rhoi sylw i’r canlynol:
Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rydyn ni’n gwybod bod rhieni a phobl sy’n gofalu’n wynebu heriau newydd wrth geisio addasu i’r sefyllfa sydd ohoni ac felly rydyn ni’n gweithio i’w helpu i ddod o hyd i’r elfennau positif yn ystod y cyfnod yma. Fel rhan o hynny, rydyn ni’n cefnogi menter Iechyd Cyhoeddus Cymru a dulliau eraill o weithredu drwy gyfrwng ein hymgyrch ‘Aros Gartref. Aros yn Bositif’.
“Mae’r dull arloesol yma o weithredu’n golygu bod rhaglen magu plant seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn genedlaethol, gan ychwanegu at y gefnogaeth a’r cyngor amrywiol a chyfoethog sydd eisoes ar gael ledled Cymru.”
Ychwanegodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae hwn yn adnodd mor wych ac rydw i mor falch o glywed bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu buddsoddi mewn adnodd mor ymarferol.
“Mae hwn yn gyfnod rhyfeddol ac mae teuluoedd ledled y wlad yn addasu i amgylcheddau newydd, anodd yn aml, a llawn straen. Mae hyn i gyd yn effeithio ar les plant. Gobeithio y bydd yr adnodd newydd hwn yn cefnogi pobl yng Nghymru sy’n rhoi gofal i greu a chynnal perthnasoedd teuluol iach.”
Mae’r cyrsiau eisoes wedi helpu llawer o rieni a gofalwyr i fagu mwy o hyder yn eu sgiliau magu plant ac wedi arwain at aelwydydd hapusach gyda llai o dyndra i bawb.