Neidio i'r prif gynnwy

Cynnydd yn nifer y sylweddau ffug ac wedi'u difwyno a dderbyniwyd gan wasanaeth profi cyffuriau Cymru

Cyhoeddwyd: 28 Awst 2024

Wrth i Ddiwrnod Rhyngwladol Ymwybyddiaeth Gorddos* ddynesu, mae arbenigwyr iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn codi pryderon am y cynnydd yn nifer y sylweddau ffug ac wedi'u difwyno y maent yn eu derbyn yng Ngwasanaeth Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS)**

Profodd y gwasanaeth dros 7 mil o samplau a gyflwynwyd o bob rhan o'r DU yn y flwyddyn 2023-24. Canfuwyd bod 42 y cant naill ai'n gynhyrchion fferyllol brand ffug neu sylweddau anghyfreithlon a oedd yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon ac yn cynnwys sylweddau heblaw'r bwriad prynu. 

Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio y gall y cyffuriau hyn fod â goblygiadau difrifol i iechyd pobl, gan gynnwys risg uwch o orddos damweiniol, gan nad oes gan ddefnyddwyr syniad beth maent yn ei gymryd, nac ar ba ddos. 
Yn ei adroddiad blynyddol, a gyhoeddir heddiw, mae data WEDINOS yn dangos bod y sylwedd a dderbyniwyd amlaf ganddynt y llynedd (ac eithrio lleoliadau economi nos) wedi'i werthu fel diazepam (faliwm). O'r 1,408 o samplau a brynwyd fel diazepam, nid oedd 48 y cant yn cynnwys diazepam. O bryder penodol, canfuwyd bod 75 o samplau a gyflwynwyd fel diazepam, yn cynnwys yr opioid synthetig cryf nitazene, naill ai ar y cyd â bromazolam (cyffur seicoweithredol) neu ar ei ben ei hun. Canfuwyd nitazenes hefyd mewn samplau a gyflwynwyd fel heroin ac oxycodone. Mae nitazenes yn opioid synthetig sydd wedi'u cysylltu ag o leiaf 176 o farwolaethau yn DU (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, 24 Mai 2024). Cafodd samplau a oedd yn cynnwys nitazenes eu cyflwyno i WEDINOS o bob rhan o dir mawr y DU.

Cynyddodd nifer y sylweddau a dderbyniwyd gan WEDINOS yn sylweddol rhwng mis Rhagfyr 2023 a mis Chwefror 2024. Gallai hyn fod wedi bod mewn ymateb i gynnydd yn y pryder am wenwyndra cyffuriau anghyfreithlon yn dilyn clystyrau o wenwyn cyffuriau angheuol ac nad oedd yn angheuol yn ymwneud â phobl sy'n chwistrellu heroin yn ardaloedd Heddlu De Cymru a Gwent. Gwnaeth profion cyflym ar sylweddau gan yr heddlu nodi presenoldeb nitazene. O ganlyniad, gweithiodd WEDINOS ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda'r arweinwyr lleihau niwed lleol a gwasanaethau i annog y defnydd o'n system brofi a darparwyd mynediad blaenoriaeth i brofion ar gyfer samplau a gyflwynwyd fel heroin.

Yn ystod 2023-24, derbyniwyd samplau gan 96 o sefydliadau gwahanol, gan gynnwys gwasanaethau cyffuriau a lleoliadau economi nos, yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd. Mae cyflwyno samplau i WEDINOS yn galluogi cipio data sy'n seiliedig ar dystiolaeth o farchnadoedd cyffuriau, gan alluogi gwasanaethau cyffuriau i ddarparu gwybodaeth am amnewid cyffuriau a niwed, yn ogystal â rhoi dadansoddiad cywir o gynnwys sylweddau i ddarpar ddefnyddwyr. 

Meddai'r Athro Rick Lines:

“WEDINOS yw unig wasanaeth profi cyffuriau cyhoeddus cenedlaethol y DU. Mae ei ganlyniadau yn parhau i ddangos pwysigrwydd profi i leihau'r niwed a achosir gan gyffuriau anghyfreithlon, gan gynnwys y risg o orddos damweiniol. Mae ein gwasanaeth yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i dderbyn dadansoddiad dienw o'r sylweddau y maent wedi'u prynu ac y gallent fod yn ystyried eu defnyddio. Mae'n galluogi dewis gwybodus ac mae'n annog newid ymddygiad. Mae ein data yn cael eu defnyddio'n rheolaidd gan wasanaethau sy'n pryderu am lesiant pobl sy'n defnyddio cyffuriau, i'w cynorthwyo i ddarparu gwybodaeth wedi'i thargedu sy'n ymwneud â sylweddau penodol a'u potensial ar gyfer niwed.”

Mae ystadegau eraill o adroddiad eleni yn cynnwys:

  • Dadansoddwyd 7,064 o samplau - cynyddodd samplau cymunedol o 4,979 i 5,793.
  • Nodwyd 206 o sylweddau gwahanol, i fyny o 185 yn 2022-23.
  • Roedd nifer y samplau o diazepam a oedd yn cynnwys sylweddau eraill yn amrywio o 39 y cant ym mis Ionawr 2024 i 55 y cant ym mis Mai 2023. 
  • Oedran canolrif y rhai a roddodd samplau yw 34 oed 
  • Fel yn y chwe blynedd flaenorol, bensodiasepinau oedd y dosbarth mwyaf cyffredin o sylweddau seicoweithredol a nodwyd, gydag ohonynt 19 wedi'u nodi
  • Cocên oedd y sylwedd a nodwyd amlaf yn gyffredinol
  • Y sylwedd a nodwyd amlaf yn y gymuned oedd diazepam, ac yna bromazolam
  • Cocên oedd y sylwedd a nodwyd amlaf yn yr economi nos
  • Y Gweithydd Derbynnydd Canabinoid Synthetig (SCRA) MDMB-BUTINACA oedd y sylwedd a nodwyd amlaf mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol.

Gallwch ddod o hyd i'r adroddiad blynyddol llawn yma:


Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk