Cynhelir cyfarfod y Pwyllgor Gwybodaeth ac Ymchwil ddydd Mercher 09 Hydref 2019.
Cynhelir y cyfarfod yn Ystafell 3/2 (Ystafell y Bwrdd), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhif 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ am 13:30, gyda Shantini Paranjothy, Cyfarwyddwr Anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gadeirydd arno, ac mae ar agor i’r cyhoedd.
Mae’r Pwyllgor hwn yn cynghori’r Bwrdd ar ansawdd ac effaith ein gwybodaeth, cudd-wybodaeth iechyd a gweithgareddau ymchwil, yn ogystal ag ansawdd data a threfniadau llywodraethu gwybodaeth yn y sefydliad.
Gellir dod o hyd i’r agenda a’r papurau yn: Papurau'r Bwrdd
Cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu Corfforaethol ar 02920 104299 os bydd gennych unrhyw gwestiynau am fynychu cyfarfod y Pwyllgor.
Mae manylion pellach am Bwyllgor Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael ar dudalennau gwe y Pwyllgor.