Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi papurau'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella ddydd Mawrth 12 Tachwedd, 2019. 

Caiff y cyfarfod, a gynhelir yn Ystafell 3/2 (Ystafell y Bwrdd), Rhif 2 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ am 13:30, ei gadeirio gan Kate Eden, Is-Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n agored i'r cyhoedd ddod iddo.
 
Mae'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella yn cynghori'r Bwrdd ar ansawdd a diogelwch gwasanaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus a ddarperir i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth.
 
Gellir dod o hyd i'r agenda a'r papurau yn: Agenda a phapurau Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella. .

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ddod i gyfarfod y Pwyllgor, ffoniwch Uned Fusnes y Bwrdd, ar 02920 104299.
 
Ceir rhagor o fanylion am Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Gwella Iechyd Cyhoeddus Cymru ar dudalennau gwe'r Pwyllgor .