Cyhoeddwyd: 15 Rhagfyr
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data newydd ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus.
Wedi'i gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, diben y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn eu cael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.
Ymhlith y canfyddiadau allweddol mae:
- Mae nifer y menywod rhwng 19 a 24 oed sydd mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi cynyddu'n raddol tua 10% dros y cyfnod o 10 mlynedd.
- Mae hunanladdiadau yng Nghymru dair gwaith yn uwch i ddynion na menywod, a dwywaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
- Mae chwarter o blant yng Nghymru’n byw mewn tlodi yn ystod 2020- 2022
- Mae'r bwlch rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar gyfer marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy, wedi bod yn cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae bellach bron ddwywaith a hanner yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
- Mae marwolaethau o anafiadau traffig ffyrdd yn fwy tebygol ymhlith dynion na menywod.
- Mae tueddiadau o ran derbyniadau brys ar gyfer torri cluniau yn awgrymu bod y gyfradd wedi bod yn gostwng dros y 12 mlynedd diwethaf
- Mae beichiogi yn yr arddegau yn parhau i ostwng ar gyfradd gyson yng Nghymru.
Mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy'n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae'n sail i'r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu amrywiaeth manylach o fesurau sy'n adlewyrchu'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant.