Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod gwaith gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru

Mae tîm o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael ei gydnabod am ei waith yn helpu i ddeall sut y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn rhyngweithio â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ffurfiodd Dr Gill Richardson, Lauren Couzens a Rebecca Fogarty y tîm o Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru a weithiodd ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, i baratoi'r adroddiad: Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru (HEAR). Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys timau o'r Groes Goch Brydeinig, Alltudion ar Waith, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig.

Dyfarnwyd Gwobr Cyflawniad Cynnwys y Cyhoedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i'r tîm yn 2019. 
Enillodd poster yn seiliedig ar y gwaith y drydedd wobr yn y gystadleuaeth posteri a gynhaliwyd yn ystod cynhadledd flynyddol Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

Daeth cyllid o'r adroddiad o Gronfa Ymchwil dan arweiniad Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r cynllun, a reolir gan dîm Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cyfle cyffrous i Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus weithio ar y cyd ag ymchwilwyr allanol ar brosiectau ymchwil o ansawdd uchel
Roedd yr adroddiad yn archwilio profiadau gofal iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy'n oedolion yng Nghymru ac roedd yn cynnwys barn a phrofiadau'r rhai sy'n derbyn gofal iechyd a darparwyr y gofal hwnnw. 

Cydnabyddir bod hwn yn grŵp poblogaeth arbennig o anodd i'w gyrraedd, a her fawr yr oedd angen ei goresgyn oedd sicrhau bod y gymuned yn gyfforddus â'r ymchwilwyr ac nad oedd rhwystr o ran iaith. I'r perwyl hwn, bu'r tîm yn hyfforddi ac yn cefnogi wyth ymchwilydd o'r gymuned sy'n ceisio lloches i ymgysylltu ag aelodau eraill o'r gymuned.

Meddai Dr Gill Richardson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol, ar adeg lansio'r adroddiad:

“Mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas Cymru.  Fodd bynnag, gall y profiad o geisio lloches fod yn llawn trawma ac ychwanegu at brofedigaeth, pontio, colled a straen sy'n bodoli eisoes. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion pawb yn ein cymunedau, ac nad ydym yn gadael neb ar ôl.

“Mae'r adroddiad hwn yn canfod bod angen i Gymru adeiladu ar gamau presennol er mwyn iddi gyflawni ei huchelgais o fod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd, yn dilyn cyhoeddiad diweddar cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Llywodraeth Cymru.”

Meddai Aled Newberry, a oedd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru ar y panel beirniadu ar gyfer y wobr:

“Dangosodd y cais weithgarwch cryf i gynnwys y cyhoedd drwy gydol y prosiect a chysylltiad clir â Safonau cynnwys y cyhoedd y DU.

“Dangosodd y cais yr effaith y mae cynnwys y cyhoedd wedi'i chael fel elfen hanfodol o ran cyflawni'r prosiect, a bod llais y rheini sy'n gysylltiedig yn amlwg iawn.”

Mae astudiaeth HEAR yn gydweithrediad rhwng Is-adran Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Abertawe, a sefydliadau'r trydydd sector: Y Groes Goch Brydeinig, Alltudion ar Waith, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig.

Adroddiadau

Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid  yng Nghymru - Crynodeb Gweithredol 

Profiadau Iechyd Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid yng Nghymru - Adroddiad Technegol (Saesneg yn unig)