Neidio i'r prif gynnwy

Cwestiynau cyffredin newydd wedi'u cyhoeddi ar fitamin D a'r Coronafeirws

Cyhoeddwyd: 4 Mawrth 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o gwestiynau cyffredin ar fitamin D mewn perthynas â'r Coronafeirws. Mae'r cwestiynau cyffredin yn seiliedig ar ganllawiau diweddar gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), a adolygodd dystiolaeth o astudiaethau o bob rhan o’r byd a fu'n ymchwilio i fitamin D a'r Coronafeirws.

Mae dogfen friffio ategol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd ar gael. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r adolygiad o dystiolaeth a gynhaliwyd gan NICE ar gyfer ei ganllaw cyflym ar COVID-19 a fitamin D (NG187). Ymchwiliodd yr adolygiad i rôl fitamin D o ran atal a thrin COVID-19, yn ogystal â'r dystiolaeth ar gyfer cysylltiad statws fitamin D â thueddiad i gael COVID-19, difrifoldeb COVID-19, a chanlyniadau COVID-19.

Mae'r canllawiau gan NICE yn dod i'r casgliad nad oes digon o dystiolaeth i argymell fitamin D yn unswydd er mwyn atal neu drin Coronafeirws.

Mae'r canllawiau hefyd yn pwysleisio cyngor presennol y llywodraeth y dylid cymryd fitaminau D atodol drwy fisoedd yr hydref a'r gaeaf er mwyn hybu cyhyrau ac esgyrn iach.

Dywedodd Dr Emily Clark, Cofrestrydd Arbenigol, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae fitamin D yn bwysig ar gyfer iechyd ein cyhyrau a’n hesgyrn. Gan ein bod yn cael y rhan fwyaf o'n fitamin D drwy ddod i gysylltiad â golau'r haul, rydym yn argymell bod pobl yn cymryd fitaminau atodol drwy'r hydref a'r gaeaf. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig a ninnau'n treulio mwy o amser dan do nag arfer.

“Fodd bynnag, nid oes digon o dystiolaeth i argymell fitamin D ar gyfer atal neu drin Coronafeirws. Byddwn yn parhau i fonitro'r ymchwil yn y maes hwn, ond am y tro mae ein cyngor yn parhau heb ei newid: yr unig ffordd i ni amddiffyn ein hunain a'n hanwyliaid yw drwy ddilyn y canllawiau Coronafeirws.”


Er nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd i brofi a yw fitamin D yn effeithio ar ymateb y corff i COVID-19, mae cyngor y llywodraeth yn argymell fitaminau atodol fel ffordd o atal diffyg fitamin D. Argymhellir dos o 10 microgram (400 uned) y dydd rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Ar gyfer y rhai sydd â chroen tywyllach a'r rhai sy'n treulio eu hamser dan do, argymhellir fitaminau atodol drwy gydol y flwyddyn.

Mae astudiaethau i rôl fitamin D yn ymateb y corff i'r Coronafeirws yn parhau. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i adolygu'r ymchwil yn y maes hwn a diweddaru'r cwestiynau cyffredin gydag unrhyw ganfyddiadau newydd.

Mae'r cwestiynau cyffredin ar gael yma:

Fitamin D a COVID-19 Cwestiynau Cyffredin

Mae'r ddogfen friffio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n rhoi crynodeb o ganfyddiadau'r adolygiad o dystiolaeth a ddefnyddiwyd i ategu Canllaw NICE NG187 ar gael yma:

Fitamin D a COVID-19 Brîffio Proffesiynol