Neidio i'r prif gynnwy

Cryptosporidiwm a ffermydd agored

Cyhoeddwyd: 24 Mai 2022

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl sy’n ymweld ag atyniadau fferm am bwysigrwydd golchi eu dwylo ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid.

Ers mis Ebrill, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol wedi ymchwilio i sawl achos o ddolur rhydd a allai fod yn gysylltiedig ag ymweliadau â ffermydd agored. Achosir hyn gan baraseit (germ) bach o'r enw Cryptosporidiwm (neu Crypto, yn fyr).   Mae achosion wedi'u nodi'n bennaf mewn plant ifanc ond mae rhai oedolion wedi bod yn sâl hefyd.

Mae nifer o'r achosion Crypto diweddar wedi ymweld â ffermydd agored ychydig cyn mynd yn sâl, lle mae ymchwiliadau pellach a samplu amgylcheddol yn digwydd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa pobl sy’n ymweld â ffermydd agored neu atyniadau eraill ar ffermydd ynghylch pwysigrwydd golchi eu dwylo, â dŵr cynnes sy'n rhedeg a sebon hylif a sychu dwylo'n hylan, ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid. 

Mae ffermydd agored, parciau fferm, sioeau amaethyddol a chanolfannau achub i gyd yn atyniadau poblogaidd, yn enwedig i blant, ond mae’n bwysig bod ymwelwyr yn ymwybodol o beryglon clefydau sy’n gysylltiedig â'r holl anifeiliaid. 

Gall germau, gan gynnwys Crypto, gael eu dal o ddefaid, gwartheg, geifr ond yn enwedig ŵyn, mynnau geifr a lloeau, ac o anifeiliaid eraill i bobl drwy gysylltiad ag ysgarthion sydd wedi’u heintio a hylifau corff eraill.  Gall hyn ddigwydd hyd yn oed os yw'r anifeiliaid yn edrych yn iach. 

Gallwch hefyd ddal germau o ddeunydd gorwedd anifeiliaid a ffensys neu drwy fwytho eu blew. Mae'n bosibl hefyd y gellir codi haint o arwynebau eraill wedi'u halogi mewn parc fferm, er enghraifft cestyll neidio neu byllau tywod, yn ogystal â chefn gwlad ehangach.

Meddai Dr Robert Smith o Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae mwytho anifeiliaid a digwyddiadau wyna’n boblogaidd ymhlith teuluoedd ac maen nhw’n ffordd ardderchog o weld mwy ar gefn gwlad a phrofi bywyd gweithio ar fferm.

“Ond, mae’n bwysig bod pawb yn dilyn cyngor hylendid dwylo da i gyfyngu ar drosglwyddo a lledaenu clefydau heintus. Mae golchi dwylo'n dda ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid fferm, deunydd gorwedd yr anifeiliaid neu offer neu ddillad budr yn bwysig iawn o ran atal heintio.

"Er bod nifer y bobl sy’n cael eu heffeithio’n ddifrifol gan gysylltiad ag anifeiliaid fferm yn isel, mae’n bwysig bod pawb, yn enwedig rhieni plant iau a menywod beichiog, yn ymwybodol o’r risgiau posibl. Dylai menywod beichiog neu'r rhai sydd â chyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes gan gynnwys atal imiwnedd osgoi cyswllt ag anifeiliaid.

“Gellir trosglwyddo heintiau hefyd o ddeunydd gorwedd anifeiliaid a ffensys neu drwy fwytho eu blew, bwyta bwyd anifeiliaid, neu amlyncu baw o'r amgylchedd.

“Anogir pobl i gysylltu â'u meddyg teulu os ydynt yn profi dolur rhydd, yn enwedig dolur rhydd gwaedlyd, dolur rhydd dyfrllyd, twymyn neu symptomau tebyg i'r ffliw ac esbonio eu bod wedi bod mewn cysylltiad â fferm neu ag anifeiliaid. Anogir meddygon teulu i gyflwyno sbesimenau ysgarthol gan gleifion a allai fod wedi dod i gysylltiad ag anifeiliaid a nodi hyn ar y ffurf gais.”

Mae'r rhagofalon hylendid syml i'w cofio yn cynnwys:

Gwirio'r cyfleusterau hylendid ar y fferm –  dylai fod cyfleusterau da i olchi dwylo â dŵr poeth sy'n rhedeg, sebon hylif a thyweli papur 

  • Ni ddylai geliau llaw gymryd lle sebon a dŵr  ac ni fyddant yn lladd llawer o'r heintiau sy'n cael eu cario gan anifeiliaid.
  • Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr poeth yn syth ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid, eu ffensys, lloriau neu ddeunydd eu gwely
  • Taflwch unrhyw fwyd neu ddiod sydd wedi’i ollwng ar y llawr 
  • Gall byrddau picnic yn yr awyr agored fod wedi'u halogi â baw adar
  • Peidiwch â bwyta nac yfed tra byddwch yn cyffwrdd anifeiliaid neu’n cerdded o gwmpas y fferm 
  • Dylech fwyta mewn ardaloedd sydd wedi’u dynodi’n unig, a hynny dim ond ar ôl golchi eich dwylo   
  • Gofalwch fod plant yn cael eu goruchwylio’n ofalus, a’u bod yn golchi eu dwylo’n briodol 
  • Dylid osgoi rhoi bysedd mewn cegau, cnoi ewinedd neu gyffwrdd wynebau wrth fwytho anifeiliaid neu wrth gerdded o gwmpas y fferm 
  • Dylech osgoi cusanu anifeiliaid fferm a pheidiwch â gadael i blant roi eu hwynebau’n agos at anifeiliaid 
  • Byddwch yn arbennig o ofalus os ydych yn feichiog a pheidiwch â chyffwrdd ag anifeiliaid na’u carthion 
  • Glanhewch esgidiau ac olwynion cadeiriau gwthio sydd wedi’u halogi’n drylwyr cyn gadael y fferm os bydd hynny’n bosib a golchwch eu dwylo ar unwaith wedyn 
  • Dylech ddarllen a dilyn yr hysbysiadau a'r arwyddion ar y fferm bob amser

Rhagor o wybodaeth:

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Atal neu reoli afiechyd o gyswllt ag anifeiliaid mewn atyniadau ymwelwyr neu ffermydd agored - Amaethyddiaeth - yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Mae gwefan Visit My Farm yn ganolbwynt gwybodaeth ar gyfer ffermwyr sy'n croesawu ymweliadau gan ysgolion ac i athrawon sy'n trefnu ymweliadau gan ysgolion â ffermydd: Cod Ymarfer | Mynediad i Ffermydd (visitmyfarm.org)

Beth yw Cryptosporidiwm?

Mae Cryptosporidiwm yn baraseit un gell microsgopig. 

Ble y gellir ei ganfod?

Gellir dod o hyd i Cryptosporidiwm ym mherfedd pobl ac yn enwedig mewn anifeiliaid fferm ac anifeiliaid dof eraill. Gellir dod o hyd iddo hefyd mewn dŵr neu fwyd sydd wedi'u halogi ag ysgarthion. Mae'n goroesi y tu allan i'r corff ar ffurf sbôr, sy'n gallu goroesi yn yr amgylchedd am gyfnodau hir o amser. Mae sborau'n gwrthsefyll y cemegau a ddefnyddir i buro dŵr yfed neu ddiheintio arwynebau. 

Sut y mae'n cael ei ledaenu?

Mae Cryptosporidiwm yn cael ei ledaenu o gyswllt uniongyrchol ag anifeiliaid wedi'u heintio, neu ag eitemau sydd wedi'u halogi ag ysgarthion anifeiliaid. Mae hefyd yn cael ei ledaenu o gael picnic mewn caeau lle mae anifeiliaid wedi bod yn pori. Gellir ei ledaenu o berson i berson, yn enwedig mewn aelwydydd a meithrinfeydd. Mae achosion hefyd wedi bod yn gysylltiedig â chyflenwadau dŵr cyhoeddus a phreifat a bwyd halogedig.

Beth mae'n ei wneud?

Mae Cryptosporidiwm yn achosi dolur rhydd, chwydu a phoen yn yr abdomen, fel arfer o fewn 5 i 7 diwrnod i'r haint, er y call y cyfnod hwn fod yn fyrrach neu'n hirach. Gall y symptomau hyn bara am tua 2 wythnos.

Sut y mae'n cael ei reoli?

  • Drwy olchi dwylo'n drylwyr ar ôl defnyddio'r toiled, ar ôl helpu rhywun arall i wneud hyn, neu ar ôl newid cewynnau. 
  • Drwy olchi dwylo'n drwyadl ar ôl trafod a bwydo anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid anwes. 
  • Drwy olchi dwylo cyn bwyta neu baratoi bwyd.
  • Drwy beidio ag yfed llaeth heb ei drin neu ddŵr heb ei drin. 
  • Drwy ddilyn canllawiau ar gyfer ymweliadau fferm. 

Sut y dylem olchi dwylo?

NID YW rinsio blaen eich bysedd o dan ddŵr oer neu ddefnyddio geliau llaw yn cyfrif.

Dyma rai nodiadau atgoffa:

  • Defnyddiwch ddŵr poeth sy'n rhedeg a sebon bob amser. Mae'n well gwlychu dwylo cyn ychwanegu sebon gan fod hyn yn atal cosi poenus. 
  • Dylech rwbio eich dwylo gyda'i gilydd am tua 20 eiliad, gan sicrhau y caiff y ddwy ochr i'r dwylo eu golchi'n drylwyr, o amgylch y bodiau, rhwng pob bys ac o amgylch ac o dan yr ewinedd. 
  • Yna, golchwch â dŵr glân. 
  • Mae germau'n lledaenu'n haws os yw'r dwylo'n wlyb felly sychwch nhw'n drylwyr. Defnyddiwch dywel glân a sych, tywel papur neu sychwr aer; does dim ots pa un.

Mae hylendid syml a rhagofalon golchi dwylo yn bwysig a gellir dod o hyd iddynt ar wefan y GIG:
Sut i olchi eich dwylo - GIG (www.nhs.uk)

Atgoffir perchnogion ffermydd agored o bwysigrwydd canllawiau iechyd a diogelwch newydd ynghylch y ffordd orau o redeg atyniadau i ymwelwyr lle ceir cyswllt ag anifeiliaid.