Neidio i'r prif gynnwy

Cryfhau cysylltiadau cymunedol i wella iechyd a llesiant yng Nghymru

23 Gorffennaf 2024

Rhaid i ni ddiogelu a hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol cryfach mewn byd sy'n newid yn gyflym i wella iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru, mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus wedi cynghori.  

Mae cysylltiadau cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol yn ein hiechyd a'n llesiant a gall fod yn ffactor sy'n cyfrannu at brofiad rhai pobl o ganlyniadau iechyd gwaeth nag eraill. Mae ‘Gadael neb ar ôl’, adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn archwilio rhai o effeithiau posibl tueddiadau'r dyfodol ar ein cysylltiadau cymdeithasol a'n rhwydweithiau cymunedol. 

Mae'r adroddiad yn ystyried tueddiadau fel ein poblogaeth sy'n heneiddio, cyfansoddiadau teuluol sy'n newid, ehangu cymunedau ar-lein a dyfodol gwaith, i asesu sut y gallai'r rhain effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant.  

Mae pobl yn byw'n hirach ac yn cael llai o blant nag mewn cenedlaethau blaenorol. Mae maint teulu cyffredin y DU wedi bod yn gostwng yn raddol – o 1.91 o blant fesul menyw yn 2010 i 1.49 yn 2022, gyda rhagamcanion yn awgrymu efallai y byddwn hefyd yn gweld mwy o aelwydydd â sawl cenhedlaeth ac un person. Er y gallai aelwydydd â sawl cenhedlaeth gyfrannu at fanteision fel mwy o ddiogelwch ariannol a mwy o adnoddau ar gyfer gofal plant a henoed, mae risg y gellid gorfodi teuluoedd mwy difreintiedig i sefyllfaoedd lle mae cartrefi'n orlawn ac o dan straen. Gallai aelwydydd un person brofi mwy o unigedd, mewn cymhariaeth. 

Mae cyfleuster llesiant amlbwrpas newydd yn arwain yn arloesol drwy gefnogi cysylltiadau cymdeithasol a chymuned yng nghanol dinas Casnewydd. Mae The Hive ar Stow Hill yng nghanol dinas Casnewydd yn cynnig lle cymunedol, cymdeithasol a gwaith ar y stryd fawr sy'n ymgorffori llesiant, adeiladu cymunedol a chreu lleoedd wrth wraidd ei ddull. 

Yn ôl data anghydraddoldeb iechyd diweddar, mae gan Stow Hill yr ail ddisgwyliad oes isaf yng Nghasnewydd, y lefel uchaf o hawlwyr budd-dal lles ac mae'n profi twf yn y boblogaeth, sy'n cynnwys pobl mewn llety sengl a/neu dros dro yn bennaf. Datblygwyd The Hive mewn ymateb i'r newidiadau hyn yn y ffyrdd o weithio mewn byd ar ôl Covid. 

Meddai Samantha Howells, Rheolwr Adfywio Ardal ar gyfer Grŵp Pobl: “Mae The Hive yn lle cymdeithasol a chroesawgar, lle gall pobl ddod iddo a bod mewn amgylchedd diogel, cynhwysol, cael cymorth, cwrdd â wyneb cyfeillgar a gwneud rhai o dasgau sylfaenol bywyd, fel gwneud eich golch, coginio, a gwaith cartref. 

“Mae gweithio ochr yn ochr â'r gymuned yn rhoi'r cyfle i ni ddeall rhai o'r heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn well a sut y gallwn ddod o'u cwmpas i gefnogi.” 

Meddai Menna Thomas, Swyddog Polisi ar gyfer Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn byw mewn byd sy'n newid yn gyflym ac sy'n gweld datblygiad cyson yn y ffordd rydym yn byw, yn gweithio, yn treulio ein hamser hamdden, ac yn llunio ein perthnasoedd. 

“Mae'r ffordd rydym yn rhyngweithio â'n gilydd ac yn adeiladu ein cymunedau yn debygol o weld newid parhaus wrth i'n bydoedd ar-lein ehangu ac wrth i ni ddechrau gweld technolegau fel deallusrwydd artiffisial yn cael effaith ddyfnach. Ar yr un pryd, mae cyfansoddiad demograffig Cymru yn newid wrth i bobl fyw bywydau hirach a chael llai o blant. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar ein perthnasoedd a'n cyfranogiad mewn rhwydweithiau cymdeithasol sy'n dylanwadu'n uniongyrchol ar ein hiechyd a'n llesiant.”