Neidio i'r prif gynnwy

Cost Tai Gwael yng Nghymru

Cafodd adroddiad newydd, a gyhoeddwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth BRE a Llywodraeth Cymru, ei lansio ar 30 Ionawr mewn Seminar Grŵp Gwybodaeth Tai o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. 

Nod y digwyddiad oedd rhoi cyfle i'r rhai sydd â diddordeb mewn ystadegau tai yng Nghymru i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ym maes tai.

Mae Cost Tai Gwael yng Nghymru yn edrych yn fanwl ar y cysylltiadau rhwng amodau tai gwael (‘peryglon yn y cartref’) a'u heffaith ar iechyd a llesiant a'r gost i'r GIG a'r gymdeithas ehangach. Mae'n ategu'r canfyddiadau yn yr adroddiad  Making a Difference Housing and Health: A Case for Investment, a gyhoeddwyd yn flaenorol ac mae hefyd yn adeiladu ar gyhoeddiadau blaenorol gan Ymddiriedolaeth BRE a Shelter. 

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar beryglon yn y cartref sy'n effeithio ar ganlyniadau iechyd a llesiant, er enghraifft drwy beri risg ddifrifol neu uniongyrchol i iechyd a diogelwch person. Yn 2017-18, amcangyfrifwyd bod 238,000 o anheddau yn cynnwys y peryglon hyn yng Nghymru, neu tua 18 y cant o gyfanswm y stoc tai, gyda'r peryglon mwyaf cyffredin yn ymwneud â chwympiadau yn y cartref, a chanlyniadau byw mewn tai oer. 

Meddai Dr Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus:

“Mae'r adroddiad hwn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r berthynas rhwng amodau tai gwael, galwadau ar y GIG, yn ogystal â chostau cymdeithasol eraill. Mae'n darparu tystiolaeth y gellir ei defnyddio i atgyfnerthu'r angen am waith partneriaeth cryf, gyda dimensiwn tai integredig.

“Mae angen parhaus i sefydliadau weithio gyda'i gilydd, defnyddio eu hasedau ar y cyd, a rhannu gwybodaeth a fydd yn helpu i fynd i'r afael â thai gwael drwy ddulliau integredig o ran tai ac iechyd, a chefnogi pobl i fyw bywydau iachach, hapusach”.

Meddai Louise Woodfine, arweinydd tai:

“Nid yw gadael pobl mewn tai afiach a pheryglus yn opsiwn. Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogi trafodaethau ehangach ynghylch y cyfraniad sylweddol y mae tai yn eu gwneud i wella iechyd a llesiant, lleihau costau gofal iechyd, yn ogystal â hwyluso camau gweithredu sy'n arwain at gartrefi iachach a mwy cynaliadwy i bobl Cymru.”

Adroddiad

Cost lawn tai gwael  yng Nghymru