Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid yn ardal Cwm Taf Morgannwg yn annog pobl ifanc ledled Cymru i gofio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol, aros mewn cwarantin ar ôl dychwelyd o dramor ac ynysu os byddant yn profi symptomau neu fel y cynghorir gan dimau Tracio ac Olrhain oherwydd bod clwstwr o achosion positif o'r Coronafeirws (COVID-19) wedi'i nodi ym Merthyr Tudful.
Cadarnhawyd bod gan gyfanswm o 13 o bobl COVID-19 mewn clwstwr sy'n canolbwyntio ar ardal Merthyr Tudful gyda nifer bach o achosion cysylltiedig wedi'u dosbarthu ar draws y rhanbarth. Mae'r achosion yn gysylltiedig drwy gynulliadau cymdeithasol ac ymddengys fod yr achosion cyntaf wedi dal eu haint pan oeddent dramor.
Mae CBS Merthyr Tudful, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd ac awdurdodau lleol ledled de-ddwyrain Cymru i fynd ar drywydd achosion a rhoi cyngor i'r rhai y maent wedi bod mewn cysylltiad â nhw.
Meddai Siôn Lingard, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus gyfer Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf: 'Rwy'n gwneud tair apêl benodol heddiw. Yn gyntaf, rwy'n annog pobl i gofio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol. Hyd yn oed os ydynt yn teimlo na fyddai COVID-19 yn effeithio'n wael arnynt pe baent yn profi'n bositif amdano, dylent wybod pe baent yn ei drosglwyddo i aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr hŷn neu fwy agored i niwed gallai fod yn ddifrifol iawn, hyd yn oed yn angheuol.
“Yn ail, os ydych wedi cael eich cynghori gan swyddogion olrhain cysylltiadau y dylech ynysu oherwydd eich bod wedi cael cyswllt â rhywun sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 yna rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddyd hwn. Mae hynny'n golygu peidio â gadael eich cartref am unrhyw reswm o gwbl.
“Yn olaf, os ydych wedi bod dramor ac wedi dychwelyd o wlad ar restr cwarantin y DU, yna ni ddylech fynd allan am 14 diwrnod. Yn ogystal, nid
yw cael prawf negyddol o fewn y cyfnod ynysu 14 diwrnod yn golygu y gall pobl roi terfyn ar y cyfnod ynysu yn gynt na 14 diwrnod. Drwy beidio â dilyn canllawiau hunanynysu ar ôl dychwelyd, gall gael effeithiau difrifol ar deuluoedd a chymunedau eraill.”
“Mae ein hymchwiliadau i nifer o achosion o COVID-19 wedi nodi bod diffyg cadw pellter cymdeithasol, yn enwedig gan leiafrif yn y grŵp oedran 18-30 oed, wedi arwain at ledaeniad y feirws i grwpiau eraill o bobl.
“Er gwaethaf y cyfraddau haint is yng Nghymru, nid yw COVID-19 wedi diflannu. Cyfrifoldeb pawb o hyd yw helpu i atal lledaeniad y feirws hwn – hynny yw, drwy hunanynysu pan ofynnir i ni wneud hynny, cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill, a thrwy olchi dwylo'n rheolaidd.
“Rwy'n deall nad yw'r mesurau hyn yn hawdd i'w dilyn, a gallant wneud ein bywydau gwaith a chymdeithasol ychydig yn fwy anodd, ond maent yn gwbl hanfodol ar gyfer cadw ein cymunedau'n ddiogel ac ar gyfer diogelu ein hunain ac eraill – gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.”