Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19, mae Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru (PenGU) wedi bod yn gweithio ar y cyd â phartneriaid allweddol i roi trefn a dadansoddi pob sampl SARS-CoV-2 sydd ar gael gan gleifion yng Nghymru.
Mae ymdrechion y tîm wedi arwain at Gymru yn dod yn arweinydd byd-eang ym maes genomeg COVID-19, wedi dilyniannu a rhannu mwy o genomau SARS-CoV-2 nag unrhyw wlad arall yn y byd heblaw am yr Unol Daleithiau a Lloegr.
Mae eu gwaith yn bwydo i mewn i brosiect £20M sy'n cael ei arwain gan gonsortiwm COVID-19 Genomics UK (COG-UK), partneriaeth arloesol o sefydliadau ledled y DU gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Genomeg Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
“Genom i bob pwrpas yw'r glasbrint sy'n cynnwys y cyfarwyddiadau i adeiladu organeb,” esboniodd Dr Thomas Connor, Arweinydd Biowybodeg, Iechyd Cyhoeddus Cymru. “Yn achos COVID-19, mae genomeg wedi ein galluogi i astudio esblygiad y feirws cyfan: sut y mae wedi newid dros amser, yn ogystal ag archwilio newidiadau yn y rhannau unigol sy'n ffurfio'r feirws.
“Mae'r data hyn wedi ein galluogi i olrhain lledaeniad y feirws mewn amser a gofod. Gellir gwneud llawer gyda'r data hynny, yn lleol ac yn fyd-eang fel rhan o'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru a'r byd ehangach.”
Gyda dyfodiad y pandemig, daeth angen yn fam pob dyfais yn gyflym iawn. Ni fu cynllun blaenorol i ddefnyddio genomeg ar gyfer COVID-19. Fodd bynnag, o fewn 24 awr i gael cymeradwyaeth i droi dilyniannu ymlaen ar gyfer COVID-19, roedd y tîm Genomeg Pathogen (PenGU) wedi dilyniannu eu genom SARS-CoV-2 Cymreig cyntaf.
“Gwnaethom ddechrau dilyniannu ar 6 Mawrth,” cofiodd Connor. “Erbyn diwedd y mis roeddem eisoes wedi darparu ein dadansoddiad cyntaf a gafodd ei fwydo i mewn i ymchwiliad i'r achos.”
Mae'r tîm wedi bod yn dilyniannu pob achos o COVID-19 a nodwyd mewn labordy GIG yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi dadansoddiad o achosion ledled Cymru, gan chwilio am newidiadau pwysig i'r feirws, ac olrhain lledaeniad a mynediad y feirws yng Nghymru a'r DU.
Mae'r tîm biowybodeg hefyd wedi adeiladu system ddadansoddi ac adrodd o'r newydd. Gwnaed hyn er mwyn i'r systemau hyn gael eu cymhwyso i weithgareddau genomeg eraill, er budd pellach i gleifion. Mae’r data yn cael eu rhannu â chydweithwyr y GIG yn lleol, ac mae'r tîm yn gweithio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn genedlaethol i gefnogi'r ymateb i'r pandemig.
Yn y pen draw, mae tîm PenGU wedi adeiladu gwasanaeth dilyniannu COVID-19 o'r radd flaenaf. Maent wedi dilyniannu a rhannu mwy o genomau na phob gwlad yn y byd heblaw am yr Unol Daleithiau a Lloegr, ar ôl cwblhau gwerth tua blwyddyn o samplau mewn tua thri mis.
Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y tîm hefyd yn ymdrech wirionedd cydweithredol gydag asiantaethau partner fel Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd hefyd yn darparu llawer iawn o gefnogaeth.
“Cawsom lawer iawn o gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd, a roddodd ofod labordy ychwanegol i ni,” meddai Dr Sally Corden, Pennaeth PenGU, Microbioleg Iechyd Cyhoeddus Cymru. “Gweithiodd yr holl dimau yn galed iawn. Roedd yn rhaid iddynt hefyd addasu'n aml i ffyrdd gwahanol o weithio, gan gynnwys gweithio gartref.”
“Mae ein tîm cyfan yn gymharol newydd,” ychwanegodd Connor. “Mae wedi bod yn rhyfeddol gweld sut y daeth pawb a phopeth at ei gilydd mewn cyfnod mor fyr o amser. Cofiwch ein bod yn gwneud hyn yng nghanol pandemig; ac rydym wedi sefydlu gwasanaeth mewn mater o ddyddiau sydd wedi, yn y pen draw, dilyniannu mwy na'r rhan fwyaf o wledydd yn y byd hyd yma.”