Nid yw ymarfer sgrinio twbercwlosis (TB) cymunedol a gynhaliwyd yn Llwynhendy yn gynharach y mis hwn wedi nodi unrhyw achosion gweithredol o glefyd TB yn y gymuned, ond nodwyd 76 achos o TB cudd.
Nid yw TB cudd yn heintus ac ni ellir ei drosglwyddo i bobl eraill a does dim angen triniaeth frys ar bobl sydd â TB cudd.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, a arweiniodd yr ymarfer sgrinio mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ysgrifennu at yr unigolion hynny a gafodd y sgrinio gyda chanlyniadau profion gwaed negyddol.
Yn y cyfamser, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ysgrifennu at gleifion y mae angen sylw pellach arnynt a'u gwahodd i fynd i glinig cleifion allanol ysbyty i drafod y canlyniadau ac unrhyw brofion neu driniaeth bellach sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae TB cudd yn digwydd pan fo unigolion wedi'u heintio gan y germ sy'n achosi TB, ond nad oes ganddynt glefyd TB gweithredol.
“Nid ydynt yn heintus ac ni allant ledaenu haint TB i eraill, ac nid ydynt yn teimlo'n anhwylus nac yn dioddef unrhyw symptomau.
“Os daw bacteria TB cudd yn weithredol yn y corff ac yn lluosi, bydd y person yn mynd o gael haint TB cudd i gael clefyd TB gweithredol. Am y rheswm hwn, gall pobl sydd â haint TB cudd gael eu trin i'w hatal rhag datblygu clefyd TB.”
Cafodd dros 1400 o unigolion eu sgrinio yn ystod yr ymarfer tri diwrnod a gynhaliwyd yn Llwynhendy ym mis Mehefin.
Mewn ymateb i'r galw uchel, cafodd un sesiwn sgrinio ei hymestyn a darparwyd sesiwn ychwanegol. Cafodd sgrinio ei ohirio ar gyfer mwy na 600 o unigolion, a fydd yn cael apwyntiadau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn iddynt fynd i gael eu sgrinio.
Meddai Dr Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol: “Rydym am dawelu meddwl yr holl bobl hynny sydd wedi’u sgrinio y byddant yn cael llythyr yn cynnwys eu canlyniadau ac unrhyw gamau pellach sydd angen eu cymryd.
“Bydd y camau nesaf yn amrywio ar gyfer gwahanol bobl - o’r rhai yr oedd eu canlyniadau’n negyddol ac nad oes angen gweithredu pellach, i’r rhai sydd angen archwiliadau pellach neu’r rhai sydd â TB cudd (anweithredol) a fydd angen apwyntiad claf allanol yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod y canlyniadau a’r driniaeth i atal TB rhag dod yn weithredol.
“Rydym hefyd yn trefnu clinigau sgrinio ychwanegol ar gyfer y rhai hynny sydd angen sgrinio, a byddwn mewn cysylltiad uniongyrchol â phobl sydd wedi cadarnhau trefniadau eu hunain dros y misoedd nesaf. Dymunwn ddiolch i’r gymuned am ymateb mewn modd mor gadarnhaol i’r alwad i ddod i gael eu sgrinio.”
Cafodd yr ymarfer sgrinio ei gynnal mewn ymgais i reoli achos parhaus o TB yn Llwynhendy y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn ei fonitro ac yn ymchwilio iddo ers tro.
Nod yr ymarfer sgrinio oedd nodi achosion gweithredol a chudd o TB ym mhoblogaeth Llwynhendy er mwyn i'r unigolion yr effeithir arnynt allu mynd i gael triniaeth ac er mwyn gallu rheoli'r achos.
Mae TB yn anghyffredin yng Nghymru yn gyffredinol. Mae gan Gymru y gyfradd isaf o TB fesul 100,000 o'r boblogaeth o gymharu â rhanbarthau eraill y DU.