Neidio i'r prif gynnwy

Dim achosion gweithredol o TB wedi nodi trwy Gam 2 Ymarfer Sgrinio TB Cymunedol Llwynhendy

Ni ddarganfuwyd unrhyw achosion gweithredol o glefyd TB yn y gymuned yn dilyn ail gam ymarfer sgrinio twbercwlosis cymunedol (TB) a gynhaliwyd yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn gynharach y mis hwn. Roedd hyn mewn ymateb i'r achos o TB yn Llwynhendy, Sir Gaerfyrddin.

Nodwyd TB cudd mewn 128 o unigolion. Mae hyn yn ychwanegol at 76 o achosion a nodwyd yn ystod y rownd flaenorol o sgrinio, sy'n golygu bod 204 o achosion o TB cudd wedi'u nodi drwy'r ymarfer sgrinio cymunedol hyd yma. 

Nid yw TB cudd yn heintus ac ni ellir ei drosglwyddo i bobl eraill. Fodd bynnag, argymhellir triniaeth i atal yr haint rhag datblygu'n glefyd TB gweithredol.

Nid oes unrhyw achosion o glefyd TB gweithredol wedi'u nodi drwy'r ymarfer sgrinio hyd yma. 
Cynhaliwyd ail gam y sgrinio drwy wahoddiad yn unig i unigolion nad oeddent yn gallu cael eu sgrinio neu wedi cael sgrinio rhannol yn unig yn sgil y galw mawr yn ystod sesiynau galw heibio cam 1 a gynhaliwyd yn ardal Llwynhendy ym mis Mehefin.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ysgrifennu at unigolion a sgriniwyd yn ystod cam diweddaraf yr ymarfer gyda'u canlyniadau, a bydd yn gwahodd y rhai sy'n gymwys i gael triniaeth i drefnu apwyntiad mewn clinig cleifion allanol mewn ysbyty. 

Yn ogystal, caiff tua 90 o unigolion y mae eu canlyniadau'n amhendant eu gwahodd i gael eu hailbrofi.

Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Nid oes unrhyw achosion o glefyd TB gweithredol wedi'u nodi drwy'r ymarfer sgrinio hyd yma.

“Mae'r ymarfer yn cyflawni ei amcan drwy nodi unigolion yn y gymuned sydd â haint TB cudd ar adeg pan nad ydynt yn heintus, y gellir cynnig triniaeth iddynt wedyn i atal TB yn y dyfodol.

“Rydym bellach yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth clinigol i'r unigolion hynny y nodwyd bod angen rhagor o sylw arnynt drwy'r cam diweddaraf hwn yn yr ymarfer.”

Ychwanegodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Rydym yn annog y rhai sydd wedi'u gwahodd i fynd i glinig naill ai i drafod triniaeth neu ar gyfer ailbrofi, i sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Caiff llythyrau apwyntiad eu hanfon allan yn ystod yr wythnosau nesaf.

“Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r cyhoedd sydd wedi rhoi o'u hamser i ddod i'w hapwyntiadau hyd yma a diolch hefyd i'r llu o bobl sydd wedi gweithio ar draws nifer o sefydliadau gwahanol i gyflawni hyn ar gyfer cymuned Llwynhendy.”

Cafodd bron 800 o unigolion eu sgrinio dros ddeg diwrnod fel rhan o ail gam yr ymarfer sgrinio.

Cynhaliwyd y sgrinio mewn cyfleuster penodol a sefydlwyd yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli. 
Cafodd yr ymarfer sgrinio ei gynnal mewn ymgais i reoli achos parhaus o TB yn Llwynhendy y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi bod yn ei fonitro ac yn ymchwilio iddo ers tro.

Nod yr ymarfer sgrinio oedd nodi achosion gweithredol a chudd o TB ym mhoblogaeth Llwynhendy er mwyn i'r unigolion yr effeithir arnynt allu mynd i gael triniaeth.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrthi'n adolygu'r data a gynhyrchwyd drwy ddau gam yr ymarfer sgrinio i benderfynu a oes angen camau gweithredu ychwanegol er mwyn dod â'r achos dan reolaeth.