Cyhoeddwyd: 5 Ebrill 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymchwilio i ddau achos o'r frech goch mewn plant yn ardal Gwent.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi cysylltiadau'r achosion, ac yn rhoi cyngor i'w rhieni ar ba gamau i'w cymryd a gwybodaeth am arwyddion a symptomau'r frech goch. Mae'r ddau glaf yn derbyn gofal priodol, ac nid oes brigiad o achosion wedi'i ddatgan.
Fel rhan o olrhain cysylltiadau arferol ar gyfer yr achos diweddaraf, cysylltir â rhieni neu warcheidwaid plant a aeth i'r Uned Asesu Brys Plant (CEAU) yn Ysbyty'r Grange yng Nghwmbrân dros benwythnos y Pasg drwy neges destun i roi gwybod iddynt y gallant fod yn gysylltiadau achos o'r frech goch.
Nid oes angen i rieni nad ydynt yn cael neges destun gymryd unrhyw gamau gweithredu, ac nid oes angen iddynt bryderu.
Meddai Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiad Amlasiantaeth:
“Rydym yn achub ar y cyfle hwn i atgoffa rhieni bod achosion o'r frech goch yn cynyddu yn y DU, ac y dylai plant dderbyn dau ddos o MMR i roi'r amddiffyniad gorau iddynt yn erbyn y frech goch.
“Rydym yn ymchwilio i ddau achos o'r frech goch sydd wedi'u cadarnhau yn ardal Gwent. Fel rhan o’n hymchwiliadau, rydym wedi nodi nifer o gleifion a aeth i'r CEAU yn Ysbyty'r Grange ar adegau penodol rhwng 30 Mawrth a 2 Ebrill.
“Bydd rhieni'r cleifion hyn yn derbyn neges destun gyda dolen i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylent gadw llygad amdano yn eu plant, a'r hyn y dylent ei wneud os oes ganddynt bryderon. Mae unrhyw gysylltiadau nad ydynt wedi'u himiwneiddio yn wynebu risg uwch o'r frech goch a gofynnir iddynt gadw draw o'r feithrinfa, yr ysgol neu leoliadau gofal plant am bythefnos. Mae hyn yn weithredu arferol ar gyfer iechyd cyhoeddus ac mae wedi'i fwriadu i atal trosglwyddo'r haint ymhellach.
“Os na fyddwch yn derbyn neges destun gennym, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau na bod yn bryderus.
“Fodd bynnag, rydym yn atgoffa rhieni bod y frech goch yn heintus iawn a gall arwain at ganlyniadau difrifol, yn enwedig i blant ifanc. Felly mae'n bwysig bod unrhyw un a ddaeth i gysylltiad â'r haint yn wyliadwrus am unrhyw symptomau yn eu plant.”
Gall rhieni wirio a yw eu plentyn wedi'i frechu'n llawn drwy edrych yn llyfr coch eu plentyn neu fynd i wefan eu bwrdd iechyd lleol.
Gellir atal y frech goch gyda'r brechlyn MMR sy'n effeithiol iawn ac yn ddiogel. Mae dau ddos o'r brechlyn MMR yn fwy na 95 y cant yn effeithiol wrth atal y frech goch. Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent yn 12 mis oed a'r ail ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.
Gellir dal y frech goch ar unrhyw oedran, ac anogir oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant i siarad â'u meddyg teulu am frechu.
Mae risgiau peidio â chael eich brechu – i chi eich hun ac i eraill sy'n agored i niwed gan gynnwys babanod, menywod beichiog nad ydynt wedi cael y brechlyn, pobl hŷn a'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach.
Os oes gan eich plentyn dwymyn a brech, ffoniwch cyn cyrraedd eich meddygfa neu'r Adran Achosion Brys, fel y gellir ei ynysu'n brydlon pan fydd yn cyrraedd.
Daw'r ddau achos yn ardal Gwent wrth i UKHSA gadarnhau adfywiad o achosion o'r frech goch yn Lloegr. Rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2023, cadarnhawyd 368 o achosion o'r frech goch gan labordai yn Lloegr. Mae Iechyd Cyhoeddus yr Alban hefyd wedi cadarnhau pum achos o'r frech goch mewn labordai yn yr Alban ers mis Hydref 2023. Daeth brigiad o achosion o'r frech goch yng Nghaerdydd i ben ym mis Ionawr 2024, ac roedd yn cynnwys wyth achos cysylltiedig.
Ceir rhagor o wybodaeth am MMR yn https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/y-frech-goch-clwyr-pennau-a-rwbela-mmr a gellir dod o hyd i statws brechu drwy wirio llyfr coch plentyn neu fynd i wefan ei fwrdd iechyd lleol.