Mae gan yr athletwr a’r deilydd record y byd o Gaerdydd, Josh Llewelyn-Jones, ffibrosis systig ac yn blentyn dywedwyd wrtho na fyddai’n cyrraedd 30 oed. Nawr – yn 32 oed – mae ar fin cyflawni ei her ‘amhosib i ddyn’ ddiweddaraf, ond nid cyn cael ei frechiad ffliw yn gyntaf – y mae’n ei gael bob blwyddyn.
Fel rhywun â chyflwr iechyd hir dymor, mae Josh yn gwybod ei fod agored i heintiau. Gan fod ganddo risg uchel o gymhlethdodau gyda’r ffliw, mae angen ei frechiad blynyddol arno i’w amddiffyn ei hun.
Mae eisoes wedi bod yn flwyddyn brysur i Josh. Ym mis Mehefin 2019, derbyniodd OBE gan y Frenhines am ‘Wasanathau i Ymwybyddiaeth o Ffibrosis Systig’ – ac ar y 7fed o Hydref, bydd yn dechrau ar ei her ddiweddaraf ac yn nofio 21 milltir – sydd gyfwerth â’r Sianel – mewn pwll yn Dover, cyn beicio 200 milltir i Twickenham ac yna rhedeg 160 milltir adref i Gaerdydd. Oll mewn pum diwrnod.
Gyda’r oriau hir o hyfforddi, y peth ola’ mae ar Josh ei eisiau yw salwch. Felly, un wythnos cyn cychwyn arni bydd yn mynd i’w feddygfa leol am ei frechiad ffliw am ddim, gan lansio’r ymgyrch flynyddol eleni (dydd Mawrth 1af Hydref).
Mae ymgyrch Curwch Ffliw yn ymgyrch GIG Cymru o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n annog pobl sydd â’r risg mwyaf o salwch o gael y ffliw, i amddiffyn eu hunain yn ei erbyn bob blwyddyn.
Meddai Josh, “Mae gen i ffibrosis systig, felly gallai dal y ffliw fod yn beth difrifol iawn i mi, a gallai arwain at gymhlethdodau fel niwmonia. Mae’n codi ofn arna i fod rhywbeth sy’n mynd o gwmpas bob blwyddyn yn aml yn cael ei ystyried fel annwyd trwm, am y gall fy ngwneud i’n sâl iawn.
“Am fod y firysau sy’n lledaenu ac yn gwneud pobl yn sâl yn newid yn aml, dwi’n gwybod ei bod yn bwysig cael fy mrechiad ffliw bob blwyddyn. Byddai’n well gen i gael fy mrechiad na dioddef wythnosau o saflwch difrifol. Mae hefyd yn fy atal i rhag rhoi’r ffliw i bobl eraill hefyd!”
Brechiad ffliw blynyddol yw’r amddiffyniad gorau yn erbyn dal neu ledaenu’r ffliw, a gall pobl ar draws Cymru sydd â chyflyrau iechyd hir dymor, fel Josh, gael eu brechiad ffliw blynyddol am ddim, ynghyd â menywod beichiog, plant 2 i 10 oed, a phobl 65 oed ac yn hŷn, gofalwyr heb dâl a phreswylwyr cartrefi
gofal. Mae hefyd am ddim i ymatebwyr cyntaf cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf cynlluniedig mewn digwyddiadau cyhoeddus a drefnwyd.
Bydd plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2019) a phlant y cynradd, o’r derbyn i flwyddyn chwech, yn cael cynnig y brechlyn ar ffurf chwistrell trwyn. Bydd plant o ddwy oed sydd â chyflwr iechyd hir dymor hefyd yn gallu cael chwistrell trwyn.
Mae staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl oedolion, cartrefi nyrsio, a hosbisau plant sydd yn ymwneud yn rheolaidd â’u cleientiaid hefyd yn gymwys am frechiad ffliw am ddim yn eu fferyllfa gymunedol. Mae hyn er mwyn amddiffyn y preswylwyr yn well ac i atal lledaenu’r ffliw.
Argymhellir bod gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol rheng flaen yn cael brechiad i amddiffyn eu hunain a’r rhai maent yn gofalu ar eu hôlau.
Meddai Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, a fydd hefyd yn lansiad Beat Flu heddiw ym Meddygfa’r Bontfaen a’r Fro, “Gall y ffliw beryglu bywydau rhai pobl am ei fod yn gallu lledaenu’n hawdd. Brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hunan ac eraill yn erbyn y salwch hwn a allai beryglu eich bywyd.”
Derbyniodd mwy o unigolion y grwpiau y’u hargymhellir ac mewn perygl frechiad y ffliw y tymor diwethaf nag erioed o’r blaen; cafodd oddeutu 868,688 o bobl eu brechu. Mae hyn yn cynnwys bron 7 ym mhob 10 o bobl 65 oed ac yn hŷn, a bron 6 o bob 10 o staff rheng flaen GIG Cymru.
“Cafwyd 62 achos o’r ffliw yng Nghymru yn ystod tymor 2018-19,” meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, “ac os ydych chi’n un o’r categorïau ‘mewn perygl’. Yna rydych yn agored i niwed ac yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau o’i ddal, felly hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, dylech gael eich brechiad ffliw blynyddol nawr.
“Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maent yn debygol o fod yn sâl yn eithaf cyflym a gall y symptomau gynnwys gwres, cur pen a chyhyrau poenus, yn aml gyda pheswch a llwnc tost. Gall rhai ei gael heb sylweddoli a’i ledaenu i eraill, a weithiau gyda chanlyniadau ofnadwy.”
Mae’r ffliw yn lledaenu drwy ddefnynnau a gaiff eu chwistrellu i’r awyr pan fydd person sy’n sâl â’r ffliw yn peswch neu’n tisian. Gall cyswllt uniongyrchol gyda dwylo neu arwynebau wedi’u heintio hefyd ledaenu’r haint. Gall y ffliw ledaenu’n gyflym, yn enwedig mewn amgylcheddau caeëdig megis cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion.
Er y rhoddir y mwyafrif o frechiadau ffliw y GIG mewn meddygfeydd, bydd plant cynradd yn cael eu brechu yn yr ysgol, a bydd mwyafrif o weithwyr GIG Cymru yn cael eu brechu yn y gweithle. Mae hefyd ar gael i oedolion cymwys oherwydd eu cyflwr iechyd neu am eu bod yn 65 neu’n hŷn, mewn sawl fferyllfa gymunedol ledled Cymru.
Gall pobl sy’n credu eu bod yn dioddef o’r ffliw ddefnyddio offeryn Galw Iechyd Cymru am ddim i wirio’u symptomau. Am fwy o wybodaeth am bwy sy’n gymwys am frechiad ffliw am ddim ewch i www.beatflu.org.