Neidio i'r prif gynnwy

Atgoffa rhieni o bwysigrwydd MMR wrth i'r achosion o'r frech goch yng Ngwent gynyddu i 17

30 Mai 2024

Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn atgoffa rhieni a gofalwyr i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu'n llawn â dau ddos o'r brechlyn MMR, wrth i nifer yr achosion yn y brigiad yng Ngwent gynyddu i 17.   

Mae'r cynnydd i fyny o naw achos a gyhoeddwyd ar ddiwedd mis Ebrill. 

Mae'r achosion newydd a gadarnhawyd mewn pobl a nodwyd fel cysylltiadau agos ag achosion blaenorol, yn hytrach na rhai sy'n deillio o ledaeniad pellach yn y gymuned. Nid oes unrhyw achosion newydd wedi'u nodi ers 20 Mai. 

Mae swyddogion iechyd hefyd yn cynghori teuluoedd sy'n bwriadu mynd i ddigwyddiadau torfol neu sy'n bwriadu teithio'n rhyngwladol dros yr haf i sicrhau bod eu plant wedi'u brechu er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo yn y lleoliadau hyn. 

Meddai Beverley Griggs, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Amlasiantaeth:  

“Diolch i gymorth rhieni a gofalwyr yng Ngwent, nid ydym wedi gweld lledaeniad helaeth y frech goch yn y gymuned yn ystod y brigiad hwn. 

“Fodd bynnag, i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo ymhellach, ac i amddiffyn y mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn cael y ddau ddos o'r brechlyn MMR. 

“Rydym hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i atgoffa rhieni a gofalwyr y dylent sicrhau bod eu plant wedi'u brechu cyn mynd i ddigwyddiadau torfol yn ystod yr haf.  Rydym yn gwybod bod y frech goch yn trosglwyddo'n hawdd pan fo pobl yn agos at ei gilydd. 

“Dylai pobl hefyd sicrhau eu bod yn cael eu brechu os ydynt yn teithio dramor, yn enwedig i wledydd lle mae cyfraddau brechu'r frech goch yn is. 

“Gall rhieni a gofalwyr wirio statws brechu MMR eu plentyn drwy wirio llyfr coch eu plentyn, neu fynd i wefan eu bwrdd iechyd lleol.” 

Gellir atal y frech goch drwy frechlyn hynod effeithiol a diogel.  Mae dau ddos o'r brechlyn MMR yn fwy na 95 y cant yn effeithiol wrth atal y frech goch 

Mae'r dos cyntaf o MMR fel arfer yn cael ei roi i fabanod pan maent yn 12 mis oed a'r ail ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed.  Fodd bynnag, os yw plant yn ymweld â gwledydd lle ceir nifer uchel o achosion o'r frech goch, gellir rhoi brechlyn MMR o chwe mis oed gyda rhagor o ddosau'n cael eu rhoi yn unol â'r drefn arferol o 12 mis.  

Gall y frech goch fod yn salwch difrifol i blant ond gellir ei dal ar unrhyw oedran.   Yn ogystal, anogir oedolion nad ydynt erioed wedi cael y frech goch na'r brechlyn MMR ac sydd mewn cysylltiad agos â phlant i sicrhau eu bod yn siarad â'u meddyg teulu am frechu. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/y-frech-goch-clwyr-pennau-a-rwbela-mmr/  

Mae risgiau peidio â chael eich brechu – i chi eich hun ac i eraill sy'n agored i niwed gan gynnwys babanod, menywod beichiog nad ydynt wedi cael y  brechlyn, pobl hŷn a'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwannach.