Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth yn canfod gostyngiadau sylweddol mewn diagnosis canser yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19

Cyhoeddwyd: 20 Mai 2022

Canfu'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yn The British Journal of Cancer y mis hwn, y rhoddwyd diagnosis o dros fil yn llai o achosion newydd o dri chanser cyffredin yng Nghymru yn 2020 o gymharu â 2019, sy'n cyfateb i ostyngiad o 15 y cant. Digwyddodd y gostyngiad mwyaf mewn achosion newydd o bron un rhan o bump ar gyfer canser y fron (19 y cant) a'r coluddyn (17 y cant), ond erbyn diwedd 2020, roedd achosion o ganser yr ysgyfaint wedi gostwng 8 y cant yn unig, mewn cyferbyniad.

Er mwyn helpu i ddeall beth ddigwyddodd i ddiagnosis canser yng Nghymru yn ystod blwyddyn lawn gyntaf y pandemig yn 2020, gwnaeth grŵp ymchwil newydd: DATA-CAN Cydweithrediad Canser Cymru (DATA-CAN CCC) ddadansoddi data canser GIG Cymru ar ddiagnosis canser y fron, canser y coluddyn a chanser yr ysgyfaint.

Hon oedd yr astudiaeth genedlaethol gyntaf o'i math ar lefel y boblogaeth i ddefnyddio data canser y gwasanaeth iechyd i fesur yn fanwl effaith pandemig Covid-19 ar ddiagnosis canser yn 2020.

Digwyddodd y gostyngiadau mwyaf ar gyfer canser y fron ymhlith menywod 50-69 oed (24 y cant), ac ymhlith pobl 80 oed a throsodd, yr oedd diagnosis wedi gostwng tua un rhan o bump ym mhob un o'r tri math o ganser. Effeithiwyd yn benodol ar ganser y fron yn y cyfnod cynnar, gan ostwng 42 y cant. Roedd achosion o ganser y coluddyn yn y cyfnod cynnar a hwyr i gyd wedi gostwng tua chwarter i draean yr un.

Canfu'r astudiaeth hefyd fod achosion o ganser y fron a gafodd ddiagnosis drwy sgrinio wedi gostwng 48 y cant yn 2020 o gymharu â 2019. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, roedd achosion o ganser y coluddyn a ganfuwyd drwy sgrinio wedi gostwng 13 y cant yn unig.

Dywedodd Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr yr Adran Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Roedd y gostyngiad mewn canser y fron a chanser y coluddyn a ganfuwyd drwy sgrinio i'w ddisgwyl dros y cyfnod hwn gan fod y ddwy raglen sgrinio wedi'u hoedi ym mis Mawrth 2020 yn unol ag argymhellion y llywodraeth i atal apwyntiadau nad oeddent yn rhai brys. Ailddechreuwyd y ddwy raglen o fis Gorffennaf 2020 gyda mesurau diogel o ran Covid ac maent wedi parhau drwy gydol gweddill y pandemig. Yn ystod yr oedi, rhoddodd Bron Brawf Cymru gymorth profi i wasanaethau ysbyty ar gyfer menywod a atgyfeiriwyd â symptomau canser y fron, a rhoddodd Sgrinio Coluddion Cymru gymorth profi i flaenoriaethu achosion lle’r amheuwyd canser y coluddyn a atgyfeiriwyd gan wasanaethau meddygon teulu i'w harchwilio ymhellach.”

Roedd diagnosis ar ôl atgyfeirio gan feddyg teulu ar gyfer achosion brys lle'r amheuwyd canser wedi gostwng fwyaf ar gyfer diagnosis canser y coluddyn a chanser yr ysgyfaint. Parhaodd canran yr achosion a gafodd ddiagnosis drwy dderbyniad brys i'r ysbyty yn ystod 2020 yn debyg i 2019 ar gyfer canser yr ysgyfaint, sef tua thraean o’r achosion, ac ar gyfer canser y coluddyn roedd tua chwarter o'r achosion bob blwyddyn.

Awgrymodd yr astudiaeth fod y canlyniadau o bosibl o ganlyniad i heintiau a salwch Covid-19, hunanynysu a marwolaethau yn y gymuned, yn ogystal ag ymatebion iechyd cyhoeddus angenrheidiol i bandemig Covid-19 gan gynnwys; cyfnodau clo gorfodol, negeseuon cryf i aros gartref, a newidiadau i'r ffordd o gael mynediad at wasanaethau sgrinio, meddygon teulu ac ysbytai.

Nododd yr astudiaeth fod y patrwm misol o niferoedd diagnosis a'r llwybr gofal iechyd i ddiagnosis wedi newid drwy gydol 2020, yn enwedig ar gyfer diagnosis canser ar ôl atgyfeiriadau gan feddygon teulu ar gyfer achosion brys lle'r amheuwyd canser, gan gyd-fynd â newidiadau amrywiol o ran mynediad at wasanaethau iechyd a chyfnodau clo.

Dywedodd Arweinydd yr Astudiaeth, yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru: “Gyda thros fil o achosion yn llai wedi cael diagnosis ar draws tri chanser cyffredin yn ystod 2020, mae'r astudiaeth yn awgrymu y gall fod nifer mawr o gleifion â mathau eraill o ganser heb ddiagnosis hefyd.”

Er bod y pandemig, ynghyd ag ymatebion iechyd cyhoeddus a gofal iechyd iddo wedi lleihau rhywfaint, mae'r astudiaeth yn dal i awgrymu y bydd newidiadau helaeth i lwybrau gofal iechyd i ddiagnosis, cynnydd mewn diagnosis ar gyfnod diweddarach a chynnydd yn nifer y cleifion heb ddiagnosis sydd â chanserau newydd yn digwydd.

Mae'r grŵp ymchwil DATA-CAN CCC yn cael ei arwain gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru ac yn cynnwys y tîm Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe a'u Cronfa Ddata SAIL, Ymchwil Data Iechyd y DU Cymru-Gogledd Iwerddon, DATA-CAN - yr Hyb Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Canser, Prifysgol Queens Belfast, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Rhydychen.


Credyd Llun: B0006421 Breast cancer cells, Annie Cavanagh (2006). Wellcome Images (CC BY-NC-ND 2.0)