Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg yn datgelu bod iechyd meddwl a chorfforol pobl wedi dirywio yn ystod y pandemig

Mae arolwg a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (24/05/2021) wedi datgelu er bod pobl bellach yn llai pryderus am ddal Coronafeirws ac yn fwy tebygol o gael eu brechu, mae llawer yn teimlo bod eu hiechyd meddwl a chorfforol wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig.

Mewn canlyniadau o’r arolwg cenedlaethol diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, roedd 42 y cant o'r bobl a holwyd yn credu bod eu hiechyd meddwl yn waeth nawr nag ydoedd cyn y pandemig, gyda menywod ac oedolion iau yn fwy tebygol o nodi hyn nag eraill, ac roedd 38 y cant yn teimlo bod eu hiechyd corfforol yn waeth nawr.

Roedd canlyniadau eraill hefyd yn dangos bod cyfran yr oedolion sy'n bryderus iawn am ddal coronafeirws wedi lleihau’n sylweddol ers dechrau 2021, o 31 y cant i 8 y cant, a bod canran y rhai sy'n barod i dderbyn y brechlyn wedi cynyddu o 64% ym mis Hydref 2020 i 95% ym mis Mawrth 2021, lle mae'n parhau.

Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae pobl eisoes yn dechrau nodi teimladau is o deimlo’n ynysig a lefelau uwch o hapusrwydd wrth iddynt ddechrau dod allan o gyfyngiadau’r pandemig. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau hefyd yn dangos yr effaith negyddol y mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi ei chael ar iechyd a llesiant cyffredinol pobl. Yn benodol, mae pobl o ardaloedd difreintiedig, pobl iau a menywod yn fwy tebygol o nodi effeithiau negyddol ar wahanol agweddau ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.”

“Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi adferiad pobl o effeithiau ehangach y pandemig, i sicrhau adferiad llwyddiannus a dyfodol o iechyd a llesiant da ar draws pob un o'n cymunedau.”

Ychwanegodd yr Athro Karen Hughes, sy’n cydlynu'r arolwg: “Mae'n wych gweld lefelau mor uchel o gefnogaeth ar gyfer brechu ledled Cymru. Fodd bynnag, mae ein canlyniadau’n awgrymu mai menywod, pobl ifanc a’r rhai sy'n byw yn y cymunedau tlotaf sy'n dangos y lefelau uchaf o betruster brechu a bod angen ymdrechion parhaus er mwyn cyfathrebu manteision iechyd brechu yn y grwpiau hyn.”

Mae'r canfyddiadau eraill yn cynnwys:

  • roedd 43 y cant yn teimlo bod eu lefelau ffitrwydd wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig
  • mae 65 y cant o oedolion bellach yn nodi eu bod yn teimlo’n hapus, sef cynnydd o 48 y cant yn unig ym mis Ionawr 2021
  • mae 80% bellach yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn dda i’r pandemig

Meddai Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl ein poblogaeth. Wrth i ni barhau ar ein llwybr at adferiad, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn sicrhau bod y rhai sy'n parhau i bryderu am eu hiechyd meddwl a llesiant yn gwybod bod cymorth ar gael, ble a sut i gael gafael arno.

“Rydym wedi cynyddu buddsoddiad i gryfhau cymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys i CALL, ein llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol, ac i Silvercloud, sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth ar-lein. Rydym yn obeithiol y bydd lefelau pryder yn gwella wrth i'r cyfyngiadau sy'n weddill gael eu llacio. Mae’n galonogol gweld mwy o gefnogaeth i'n rhaglen frechu a fydd yn hanfodol i adferiad iechyd corfforol a meddyliol y genedl.

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 10 – 16 Mai 2021, pan gafodd 601 o bobl eu holi.

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.