Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg yn canfod agweddau cadarnhaol at frechu ymhlith plant yn eu harddegau a'u rhieni yng Nghymru

Mae dros 90 y cant o blant yn eu harddegau a'u rhieni yng Nghymru a holwyd yn ymddiried mewn brechlynnau ac yn credu eu bod yn gweithio.

Mae adroddiad newydd yn trafod y canfyddiadau o'r arolwg Agweddau at Frechu'r Glasoed 2019 a gynhaliwyd gan BMG Research ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Diben yr arolwg hwn oedd cael gwell dealltwriaeth o'r ymwybyddiaeth sydd gan blant yn eu harddegau rhwng 13 a 15 oed a'u rhieni am frechlynnau a chlefydau y gellir eu hatal gan frechlynnau, yn ogystal ag edrych ar agweddau at imiwneiddio'r glasoed.

Cynhaliwyd dros 300 o gyfweliadau—wedi'u rhannu rhwng rhieni a phlant yn eu harddegau. Cadarnhaodd y canlyniadau rôl bwysig gweithwyr iechyd proffesiynol o ran rhoi cyngor ar imiwneiddio. Mae dros 90 y cant o rieni a phobl ifanc yn ymddiried mewn cyngor ar imiwneiddio a ddarperir gan weithwyr iechyd proffesiynol a’r GIG. Y cyfryngau cymdeithasol oedd y ffynhonnell o wybodaeth am imiwneiddio yr ymddiriedir ynddi leiaf.

Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad:
•    Mae 95 y cant o rieni a 90 y cant o blant yn eu harddegau yn credu bod brechlynnau'n gweithio.
•    Mae 93 y cant o blant yn eu harddegau yn dweud ei bod yn bwysig cael eich brechu.
•    Mae 91 y cant o rieni a 90 y cant o blant yn eu harddegau yn ymddiried mewn brechlynnau. 
•    Mae 90 y cant o rieni ac 87 y cant o blant yn eu harddegau yn credu bod brechlynnau'n ddiogel.
•    Mae 77 y cant o rieni a 69 y cant o blant yn eu harddegau yn credu bod pob brechiad yn llai o risg na'r clefyd cysylltiedig.

Yn ogystal, mae 97 y cant o rieni a 91 y cant o blant yn eu harddegau yn dweud nad oeddent byth yn anghytuno ynghylch cael unrhyw frechlyn, a dim ond 7 y cant o rieni a phlant yn eu harddegau sy'n cofio dod ar draws unrhyw beth a fyddai'n gwneud iddynt bryderu am gael brechiad. Roedd dros wyth o bob 10 o blant yn eu harddegau a gafodd gynnig brechlyn yn fodlon ar y broses ac yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i ddeall pam y cynigiwyd y brechiad.

Meddai Anne McGowan, Nyrs Ymgynghorol yn y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r adroddiad yn newyddion cadarnhaol iawn, gan ganfod lefelau uchel o hyder ynghylch brechu. Mae'n dangos bod y mwyafrif helaeth o rieni a phlant yn eu harddegau yng Nghymru yn deall yn iawn bwysigrwydd brechlynnau i atal lledaeniad clefydau y gellir eu hatal.”
Mae rhai o argymhellion yr adroddiad yn cynnwys parhau i gyfathrebu manteision y brechlynnau a hysbysu plant yn eu harddegau am y prosesau dan sylw. I blant yn eu harddegau, gwelwyd bod ysgolion yn sianel wybodaeth allweddol gyda thros 50 y cant o blant yn eu harddegau yn cofio dysgu rhywbeth am frechiadau yn yr ysgol. 

Roedd merched yn eu harddegau yn fwy tebygol o gofio dod o hyd i wybodaeth am frechiadau, ac argymhellwyd y gallai fod angen gwneud mwy o waith i ymgysylltu'n well â bechgyn yn eu harddegau. Mae data'r adroddiad hefyd yn cefnogi'r defnydd parhaus o ddeunyddiau argraffu o ansawdd uchel a hygyrch. 

Yn y pen draw, mae'r arolwg cynrychioliadol yn rhoi gwell dealltwriaeth o'r ymwybyddiaeth sydd gan blant yn eu harddegau a'u rhieni am frechlynnau, ac mae'n dangos bod gan y mwyafrif helaeth o rieni a phlant yn eu harddegau hyder yn rôl bwysig brechu o ran atal clefydau difrifol. 

Gellir gweld yr adroddiad llawn drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Adroddiad