Neidio i'r prif gynnwy

Annog brechu, gan fod disgwyl i'r ffliw fod yn fater iechyd cyhoeddus mawr yng Nghymru y gaeaf hwn

Cyhoeddwyd: 27 Medi 2022

Mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus yn disgwyl tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae pryderon y gall ddechrau'n gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl. O ganlyniad, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig, er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.

Yn ogystal, mae rhaglen pigiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 bellach yn fyw ac mae llawer o bobl gan gynnwys pawb dros 50 oed, a'r rhai sy'n wynebu risg o salwch difrifol ymhlith y rhai sy'n cael cynnig pigiad atgyfnerthu Covid-19 i leihau eu siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Mae achosion o ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru. Mae gwyddonwyr iechyd cyhoeddus yn dweud y gallai'r tymor ffliw fod mor ddifrifol â'r achosion o ffliw yn 2017/18, pan gafodd 16.5 mil o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ffliw gan eu meddyg teulu, ac roedd yn rhaid i 2,500 o bobl fynd i'r ysbyty. Roedd hefyd lefel uchel o farwolaethau ychwanegol tymhorol y flwyddyn honno – y gwaethaf ers tua 20 mlynedd.

Ers mis Mawrth 2020, mae cyfnodau clo Covid-19 a chyfyngiadau teithio rhyngwladol wedi amharu ar faint o feirysau anadlol sydd ar led, ond wrth i'n bywydau fynd yn ôl i'r arfer, mae feirysau'n dychwelyd mewn niferoedd uwch. Eleni, profodd Awstralia dymor ffliw a oedd yn gynharach nag arfer a gwelodd y lefelau achosion uchaf mewn pum mlynedd. Mae'n bosibl y bydd y DU – a Chymru – yn profi gweithgarwch ffliw tebyg.

Gyda Covid-19 hefyd yn mynd ar led, a phwysau ychwanegol y gaeaf ar y GIG, mae'n bwysicach nag erioed bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i'w hatal rhag mynd yn ddifrifol sâl a diogelu'r GIG y gaeaf hwn.

Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Dros Dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n esbonio “Gall ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i’r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i ffliw. Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.

“Yn yr un modd, mae brechiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19 yn ymestyn yr amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol. Mae unrhyw sgil-effeithiau o'r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd. Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunan ac eraill y gaeaf hwn yn erbyn salwch difrifol.” 

Meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym yn annog pawb i gael eu dau bigiad y gaeaf hwn, pan fydd ffliw a COVID ar eu hanterth, i amddiffyn eu hunain, y rhai o'u cwmpas a'r GIG yn ystod cyfnod prysur i ofal iechyd yng Nghymru.”

I hyrwyddo'r brechiadau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy'n annog y rhai sy'n gymwys i ‘ailwefru’ eich amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol y gaeaf hwn drwy gael y brechlynnau ffliw a Covid-19. Mae'r ymgyrch yn lansio ar 27 Medi gyda chynnwys digidol a chymdeithasol yn ogystal ag estyn allan i randdeiliaid a hysbysebion radio.

Argymhellir y brechlyn ffliw blynyddol ar gyfer pob plentyn o ddwy oed (oed ar 31 Awst 2022) hyd at a chan gynnwys blwyddyn ysgol 11.

ASTUDIAETH ACHOS: Mae Rowanne,  mam 26 oed o Gasnewydd yn deall pwysigrwydd y brechlyn ffliw. A hithau'n nyrs sy'n helpu cleifion canser, mae'n gweld yn uniongyrchol sut y gall feirws syml gael effeithiau difrifol ar gleifion agored i niwed. Meddai Rowanne: “Maent yn codi haint ac yn fwy sâl na'r rhan fwyaf o bobl, gan nad oes ganddynt y system imiwnedd i'w ymladd. Rwy'n annog y rhai sy'n gymwys yn gryf i feddwl am y bobl yn eich bywyd sydd fwyaf agored i niwed, a meddwl am gael y brechlyn i'w hamddiffyn.”

Mae brechu yn arbennig o bwysig i'r rhai sy'n hŷn, yn feichiog, neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i'r heintiau. Mae hefyd yn bwysig iawn bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu'n darparu gofal yng nghartrefi pobl eu hunain yn cael eu brechlynnau er mwyn helpu i leihau lledaeniad.

I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledu, cofiwch ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa.’
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael y brechlynnau, ewch i Brechlyn ffliw a phigiad atgyfnerthu'r hydref COVID-19