Cyhoeddwyd: 20 Ebrill 2023
Mae adolygiad cwmpasu ystwyth o dystiolaeth eilaidd gan y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ceisio cadarnhau'r dystiolaeth bresennol ynghylch sicrhau bod cymaint â phosibl yn manteisio ar ymyriadau rhagsefydlu.
Mae rhagsefydlu yn cyfeirio at ymyriadau a gynhelir cyn llawdriniaeth. Eu nod yw lleihau cymhlethdodau ac afiachedd ar ôl llawdriniaeth, ac i hwyluso gwellhad. Mae'r ymyriadau hyn yn amrywio o gyngor maethol i alluogi colli pwysau, gweithgarwch corfforol i wella cryfder a symudedd, help gyda rhoi'r gorau i smygu neu yfed, ymyriadau anadlol fel Therapi Ymarfer Corff Cyn Llawdriniaeth, neu roi cyngor ac addysg ar gyfer rheoli poen.
Ni nodwyd unrhyw dystiolaeth eilaidd ynghylch sut i sicrhau'r defnydd mwyaf o ymyriadau rhagsefydlu. Fodd bynnag, edrychodd y Gwasanaeth Tystiolaeth ar ba ffactorau allai weithio fel hwyluswyr neu rwystrau i'r defnydd o ymyriadau rhagsefydlu, a nododd y dystiolaeth yn gyson bedair elfen wahanol sy'n gweithredu fel hwyluswyr a rhwystrau: amser, mynediad, lleoliad, ac iechyd. Fodd bynnag, roedd rhai elfennau, fel lleoliad yn gweithredu fel hwylusydd yn rhwystr yn dibynnu ar y math o lawdriniaeth neu ymyriad rhagsefydlu.
Roedd gallu dod o hyd i'r amser o fewn ymrwymiadau dyddiol fel gwaith ac apwyntiadau triniaeth parhaus yn rhwystr i gyfranogi, ond roedd ymyriadau a gynlluniwyd i weithio o amgylch ffordd o fyw claf yn llawer mwy derbyniol.
Nododd y dystiolaeth hefyd fod ymyriadau a oedd yn hygyrch yn lleol yn hwyluswyr, a bod cost trafnidiaeth, baich apwyntiadau ac amser cyfyngedig cyn llawdriniaeth yn rhwystrau.
Roedd lleoliad ymyriad yn ffactor pwysig o ran dylanwadu ar bobl i fynd i ymyriad rhagsefydlu, ond roedd y dystiolaeth yn gymysg ynghylch ai lleoliad ysbyty oedd y lle mwyaf effeithiol i gynnal yr ymyriad. Nododd y dystiolaeth fod hyn yn dibynnu ar y gwahanol fathau o ganser yr oedd cleifion yn byw gyda nhw. Roedd y rhai â chanserau gynaecolegol â mwy o gymhelliant mewn lleoliadau nad oeddent yn yr ysbyty, ond roedd gan y rhai a oedd yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth fawr ar gyfer canser abdomenol yn nodi bod lefelau cydymffurfiaeth uwch mewn ysbytai.
Roedd iechyd presennol y claf hefyd yn ffactor ysgogol o ran manteision iechyd a llesiant canfyddedig yr ymyriad. I'r gwrthwyneb, roedd teimlo'n rhy anhwylus, profi sgil-effeithiau eu triniaeth bresennol, a theimlo'n flinedig, yn aml yn rhwystr i gyfranogiad pobl mewn ymyriadau.
Nododd yr adroddiad cwmpasu ystwyth ddiffyg tystiolaeth eilaidd yn ymwneud â sut y gall nodweddion fel ethnigrwydd ac oedran ddylanwadu ar gyfranogiad, yn ogystal â chydrannau ymyriad gan gynnwys technoleg ddigidol a goruchwyliaeth.
Tynnodd y Gwasanaeth Tystiolaeth sylw at y ffaith na allwn ddweud o'r dystiolaeth a fyddai modd cyffredinoli'r rhwystrau a'r hwyluswyr hyn i fathau eraill o ymyriadau rhagsefydlu, disgyblaethau llawfeddygol neu grwpiau cleifion nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adolygiadau.
Meddai Hannah Shaw, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth ar gyfer y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Er bod cyfoeth o dystiolaeth ar gael yn fyd-eang ar fanteision cleifion yn ymgymryd â gwaith rhagsefydlu, canfu ein hadolygiad cwmpasu fod diffyg ymchwil sy'n ystyried y cymhellion ar gyfer gwneud hynny.
“Gobeithiwn y bydd nodi'r ffactorau hyn, yr ymddengys eu bod yn dylanwadu ar gymhelliant pobl i ymgymryd ag ymyriadau rhagsefydlu, yn helpu'r rhai sy'n cynllunio ac yn gwerthuso ymyriadau o'r fath, drwy dynnu sylw at ffactorau pwysig i'w hystyried wrth eu gweithredu.”