Cyhoeddig: 20 Hydref 2023
Bydd adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio ar draws y sefydliad i ddatblygu diwylliant o ymchwil. Mae hyn yn rhan o strategaeth Ymchwil a Gwerthuso newydd wedi'i chynllunio i alluogi strategaeth hirdymor gyffredinol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r strategaeth yn cwmpasu meysydd fel cryfhau'r gwaith o reoli a chynorthwyo gweithgareddau ymchwil a gwerthuso, yn ogystal â chryfhau partneriaethau â'r gymuned ymchwil a gwerthuso ehangach yng Nghymru, y DU, ac yn rhyngwladol.
Mae'r strategaeth yn amlinellu sut y bydd yr adran yn cynnwys rhanddeiliaid, gan gynnwys llunwyr polisi, ymchwilwyr, y cyhoedd ac eraill, i gael adborth ar feysydd ymchwil blaenoriaeth.
Meddai Elen de Lacy, Arweinydd Partneriaeth Strategol Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae datblygiad y strategaeth wedi'i lywio'n fawr gan strategaeth hirdymor gyffredinol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a lansiwyd yn gynharach eleni.
“Mae grŵp goruchwylio ymchwil a gwerthuso wedi'i sefydlu er mwyn cynorthwyo'r gwaith o weithredu'r strategaeth yn llwyddiannus. Rwy'n edrych ymlaen at weithio ar draws y sefydliad a chyda rhanddeiliaid yn y gymuned ymchwil, yng Nghymru a thu hwnt, ar weithgarwch ymchwil a gwerthuso ystyrlon.”