Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau gwerthusiad o ganlyniadau Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae diabetes math 2 yn fygythiad mawr i iechyd unigol (1) er y gellir ei atal i raddau helaeth (2). Mae modd osgoi llawer o achosion drwy gefnogi pobl i fabwysiadu deiet iachach a bod yn fwy egnïol yn gorfforol (3). Mae ymchwil yn dangos y gall ymyriadau a gynigir i boblogaethau sydd mewn perygl leihau'r tebygolrwydd o ddigwydded diabetes math 2 yn sylweddol (4). Mewn ymateb i'r dystiolaeth hon, ac i ddulliau peilot tebyg yn Nyffryn Afan (5) a gogledd Ceredigion (6), darparodd Llywodraeth Cymru gyllid i Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2021 i gyflenwi Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan. 

Datblygwyd Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan mewn cydweithrediad ag ystod eang o randdeiliaid (yn cynnwys meddygon teulu, arbenigwyr diabetes, arbenigwyr iechyd y cyhoedd a mwy) i ddarparu cefnogaeth strwythuredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2 ​(7)​. Gwahoddir pobl sydd wedi'u nodi fel rhai sydd mewn perygl (yn seiliedig ar HbA1c (h.y., siwgr yn y gwaed) o 42-47 mmol/mol) i gymryd rhan mewn ymgynghoriad 30 munud gyda Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd hyfforddedig. Mae'r sesiynau hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r risg uwch o ddiabetes math 2 ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo deiet iachach, annog gweithgarwch corfforol ac ar gefnogi gosod nodau. Mae cyfranogwyr hefyd yn cael eu cyfeirio at lwybrau rheoli pwysau ac atgyfeirio ymarfer corff ehangach sydd ar gael ​(8)​ fel y bo’n briodol. Nod cyffredinol Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yw lleihau’r lefelau siwgr yn y gwaed ymhlith unigolion sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes math 2, a thrwy hynny helpu i ohirio neu atal y clefyd rhag dechrau. 

Mae'r adroddiad byr hwn a gyhoeddwyd gan y Tîm Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i effaith Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan ar lefelau siwgr yn y gwaed a'r categorïau glycemig cysylltiedig (normoglycemia, cyn-ddiabetes, a diabetes). Defnyddiodd y gwerthusiad ddata gwasanaeth cysylltiedig a chofnodion gofal iechyd rheolaidd a gedwir yng nghronfa ddata Cysywllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ​(9–13)​. Defnyddiwyd cynllun sawl cyfnod cam wrth gam ar gyfer y gwerthusiad a chymharwyd canlyniadau ar gyfer bron i 2,000 o unigolion a gafodd gynnig bod yn rhan o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan. Nodwyd bron i 1,500 o bobl fel rhai a oedd mewn perygl o gael diabetes math 2 a oedd yn derbyn y gofal arferol cyn cyflwyno'r rhaglen. 

Y canfyddiadau allweddol 

Roedd y rhai a gafodd gynnig bod yn rhan o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn llai tebygol o dipyn o gyflwyno’u hunain fel rhai â lefelau siwgr yn y gwaed yn yr ystod diabetes (4% o’u cymharu â 26%) 

Roedd gan y cyfranogwyr a gafodd gynnig bod yn rhan o Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan lefelau cyfartalog siwgr yn y gwaed is ar ôl 12 mis o'u cymharu â'r rhai a oedd yn derbyn y gofal arferol (42.7 mmol/mol o’u cymharu â 43.8 mmol/mol) 

Casgliad 

Mae'r gwerthusiad hwn yn dangos bod Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn effeithiol wrth leihau’r lefelau siwgr yn y gwaed (HbA1c) ac atal unigolion rhag symud ymlaen i ddatblygu lefelau sy'n gyson â diabetes math 2 o'u cymharu â lefelau’r rhai sy’n derbyn y gofal arferol. Mae'r canfyddiadau'n cyd-fynd ag adroddiad diweddar sy'n casglu safbwyntiau staff a chyfranogwyr ynghylch y gwasanaeth ​(14)​ ac maent yn tynnu sylw at y ffaith y gall ymyriad byr, wedi’i dargedu, sy'n canolbwyntio ar newidiadau cymedrol i ddeiet ac i lefelau gweithgarwch corfforol, sicrhau gwelliannau sylweddol a mesuradwy mewn canlyniadau clinigol sy'n gysylltiedig â diabetes math 2. Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod gan Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan y potensial i wneud cyfraniad sylweddol at leihau baich diabetes yn y dyfodol ledled Cymru. 

Tudalennau adroddiad