Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi datblygu Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal (IGSA), sy’n nodi’r elfennau sylfaenol sydd eu hangen i symud y system iechyd a gofal tuag at ymagwedd sy’n seiliedig ar atal.
Mae’r Fframwaith yn gweithredu fel ambarél, gan ddwyn ynghyd nifer o ddulliau sydd wedi’u hen sefydlu, a’r bwriad yw ei gysoni â gwaith ar draws y system, gan gynnwys gwaith ar anghydraddoldebau, rheoli iechyd y boblogaeth, gofal iechyd y cyhoedd, llwybrau gofal iechyd a gwaith ar draws sectorau a rhaglenni cenedlaethol â’r nod o wreiddio iechyd ym mhob polisi.
Mae’r Fframwaith PBHC yn darparu dull systematig o ddeall y camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni nodau atal penodol. Mae'n gwneud hyn drwy alluogi adnabod:
• Pwy sydd angen elwa o gamau ataliol penodol
• Pa gamau ataliol sydd eu hangen
• Sut mae angen rhoi’r camau ataliol hyn ar waith