Mae cleifion gofal critigol yn fwy tebygol o ddatblygu heintiau oherwydd eu bod yn sâl iawn, ac fel arfer maent angen defnyddio dyfeisiau meddygol, fel cyfarpar anadlu / tiwbiau (peiriant anadlu) a chathetrau. Sefydlwyd rhaglen wyliadwriaeth Gofal Critigol Cymru yn 2007 i amcangyfrif y risg o haint ar gyfer cleifion â chathetrau gwythiennol canolog. Mae llinellau cathetrau gwythiennol canolog yn bwysig mewn gofal critigol gan eu bod yn cael eu defnyddio, er enghraifft, i roi hylifau, maeth a meddyginiaeth i’r claf. Ehangwyd y rhaglen gofal critigol yn 2008 er mwyn pennu’r risg i gleifion sydd ar beiriant anadlu gael haint. Ers 2013, dim ond gwybodaeth am heintiau sy’n gysylltiedig â chleifion sy’n cael cymorth anadlu trwy diwb sy’n cael ei casglu, a gelwir hyn yn wyliadwriaeth Niwmonia Cysylltiedig â Pheiriant Anadlu (VAP).
Cesglir data ar bob claf sydd ar beiriant anadlu mecanyddol mewn unedau gofal critigol i oedolion ledled Cymru. Mae’r data a gesglir yn cynnwys nifer y cleifion ar beiriant anadlu ym mhob uned yn fisol a’r nifer sy’n datblygu haint (niwmonia cysylltiedig â pheiriant anadlu). Fel rhan o’r rhaglen, rydym yn cynnal dadansoddiad o’r data ac yn adrodd ar gyfraddau heintiau sy’n gysylltiedig â chleifion gofal critigol sydd ar beiriant anadlu ledled Cymru. Mae tîm HARP yn cydweithio gyda’r byrddau iechyd yng Nghymru i leihau’r risg i gleifion ddatblygu haint.