Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad o Prehab2Rehab

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datblygu Prehab2Rehab i ddarparu cymorth rhagsefydlu i gleifion canser sy’n cael triniaeth. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau cleifion o driniaeth canser a lleihau cymhlethdodau ar ôl triniaeth. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu effeithiolrwydd Prehab2Rehab.

Bydd eich cyfranogiad yn y gwerthusiad hwn yn llywio parhad Prehab2Rehab yng Nghaerdydd a’r Fro, a’r posibilrwydd o gyflwyno rhaglenni tebyg ledled Cymru. Cyn i chi benderfynu a hoffech gymryd rhan, mae'n bwysig eich bod yn deall pam mae hyn yn cael ei wneud a beth mae'n ei olygu i chi. Cymerwch amser i ddarllen yr wybodaeth ganlynol a phenderfynwch a ydych am gymryd rhan ai peidio.

Os oes gennych bryderon am unrhyw agwedd ar yr astudiaeth hon, dylech siarad ag aelod o'r tîm astudio a fydd yn gwneud ei orau i ateb eich cwestiynau. Os bydd gennych bryderon o hyd yn dilyn trafodaeth gyda’r tîm ymchwil, gallwch gysylltu â thîm pryderon Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy’r ffyrdd canlynol:

Tîm Pryderon Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru 
Rhif 2 Capital Quarter 
Stryd Tyndall 
Caerdydd 
CF10 4BZ 
Tel: 02920 104294 
publichealthwales.handlingconcerns@wales.nhs.uk