Neidio i'r prif gynnwy

Uned Penderfynyddion Iechyd Ehangach

Ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant yw penderfynyddion ehangach iechyd. Mae’r ffactorau hyn yn ysgogi gwahaniaethau, neu anghydraddoldebau, mewn iechyd a llesiant rhwng grwpiau o bobl. Maent yn cynnwys:

  • Addysg
  • Gwaith teg
  • Arian ac adnoddau
  • Tai
  • Trafnidiaeth
  • Yr amgylchedd adeiledig a naturiol

Mae ein strategaeth tymor hir yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cyflawni dyfodol iachach erbyn 2035, y byddwn yn ei wneud trwy ganolbwyntio ar chwe blaenoriaeth strategol. Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd yw un o’r blaenoriaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yn rhoi fframwaith cyffredin ar gyfer mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd.
 

Yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd

Mae sawl tîm ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd, yn lleol ac yn genedlaethol. Er mwyn cynyddu ein heffaith, sefydlwyd yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn 2019 fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Llesiant.

Cenhadaeth yr Uned yw cynyddu dylanwad y system iechyd cyhoeddus i’r eithaf trwy drosi tystiolaeth, cynyddu capasiti a chydlynu rhwydweithiau dylanwad. Mae’n dîm bach o ymarferwyr, cydlynwyr a staff gweinyddol, a arweinir gan Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd.

I gael rhagor o wybodaeth am Benderfynyddion Ehangach Iechyd neu’r Uned, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at: PHW.Determinants@wales.nhs.uk

 

Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r uned yn gartref i Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru , rhwydwaith gyda dros 2,500 o aelodau ledled Cymru. Nod y Bydd Rhwydwaith yn hysbysu, yn hwyluso ac yn creu cysylltiadau ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector mewn trefn gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.

E-bostiwch: publichealth.network@wales.nhs.uk

 

Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru

Gan weithio mewn partneriaeth â thimau iechyd cyhoeddus lleol, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r Uned yn arwain ar gyflawni rhaglen aml-flwyddyn wedi eu ariannu gan yr Sefydliad Iechyd sy’n ceisio cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru i gymhwyso damcaniaeth ac ymagweddau systemau wedi’u llywio gan dystiolaeth i ddylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd.