Negeseuon allweddol
- Mae cael y prawf sgrinio ymlediad aortig abdomenol (ymlediad) yn lleihau'r risg o farw o ymlediad. Mae dod o hyd i ymlediad yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i'r dyn gael triniaeth a goroesi.
- Yr aorta yw'r brif bibell waed sy'n cyflenwi gwaed i'r corff. Mae ymlediad yn chwyddo yn yr aorta yn yr abdomen, ac os bydd yn cael ei gadael heb ei chanfod, efallai y bydd yn rhannu neu dorri.
- Mae sgrinio am ymlediad yn cynnwys sgan uwchsain syml i fesur yr aorta abdomenol.
- Mae sgrinio am ymlediad yn brawf am ddim gan y GIG a gynhelir mewn clinigau cymunedol.
- Dewis y dyn yw cymryd rhan mewn sgrinio am ymlediad.
Cefndir
Mae tystiolaeth ymchwil wedi dangos y gall rhaglen sgrinio o ansawdd uchel ar gyfer ymlediad leihau marwolaethau oherwydd ymlediad aortig toredig tua 50% mewn dynion 65 – 74 oed. Ym mis Chwefror 2007, cymeradwyodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU gyflwyno sgrinio am ymlediadau i ddynion 65 oed drwy ddefnyddio sganio uwchsain abdomenol ar yr amod bod:
- Gwybodaeth glir am risgiau llawdriniaeth ddewisol yn cael ei rhoi i'r dynion a wahoddwyd, a
- Bod rhwydweithiau fasgwlaidd yn eu lle i drin unigolion a atgyfeiriwyd o sgrinio.
Lansiwyd Rhaglen Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru ym mis Mai 2013 ac erbyn 2025 ei nod yw haneru marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ymlediad aortig abdomenol (ymlediad) yn y boblogaeth gymwys drwy raglen sgrinio systematig ar gyfer dynion 65 oed sy'n byw yng Nghymru.
Ers 1 Mai 2015, gall dynion nad ydynt erioed wedi mynd am sgan sgrinio ymlediadau gan y GIG ac nad ydynt wedi cael cynnig sgrinio ymlediadau oherwydd eu bod wedi cael eu pen-blwydd yn 65 cyn iddo fod ar gael yng Nghymru gysylltu â'r swyddfeydd sgrinio lleol i ofyn am sgan sgrinio ymlediadau.
Crynodeb o'r gweithgarwch yn y flwyddyn a adroddwyd
Oherwydd effaith y pandemig ar gapasiti sgrinio, roedd amseroedd aros y tu hwnt i'r pen-blwydd yn 65 oed yn y boblogaeth gymwys yn hirach na'r disgwyl. Ymrwymodd y rhaglen i sicrhau na fyddai unrhyw ddynion cymwys yn aros y tu hwnt i'w pen-blwydd yn 66 oed erbyn 31 Mawrth 2023. I gyflawni hyn, cafodd sgrinwyr ymlediadau ychwanegol eu recriwtio a'u hyfforddi a gweithiodd sgrinwyr oriau hirach i alluogi cynnal mwy o sganiau nag a ddisgwylir mewn unrhyw flwyddyn arferol.
Roedd amseroedd aros wedi gwella yn ôl y disgwyl erbyn diwedd mis Mawrth 2023. Rhagwelir y bydd angen llai o sganiau yn y blynyddoedd dilynol.
Edrych ymlaen at y flwyddyn sgrinio nesaf
Yn 2023/24, bydd lleoliad sgrinio newydd yn Llanisien, gogledd Caerdydd, ar gael i'w ddefnyddio. Bydd y lleoliad hwn yn cael ei reoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn darparu cyfleuster clinig y gellir ei ddefnyddio am oriau hirach ac, os oes angen, 7 diwrnod yr wythnos.
Fel rhan o'r ymgyrch tuag at gynaliadwyedd, bydd y rhaglen yn cyflwyno cerbydau trydan llawn a hybrid yn lle'r fflyd bresennol o geir diesel.
Penawdau ystadegol
Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod amser rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Mae canran y rhai a gafodd eu sgrinio wedi'i diffinio fel y rhai a wahoddwyd yn y flwyddyn Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023 a gafodd sgan erbyn 30 Mehefin 2023.
- Canran genedlaethol y rhai a gafodd eu sgrinio oedd 77.6% yn amrywio o 73.4% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i 82.1% ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
- Roedd canran y rhai a gafodd eu sgrinio yn uwch ymhlith y dynion hynny sy'n byw yn yr ardaloedd â'r amddifadedd lleiaf (84.4%) o gymharu â'r ardaloedd â'r amddifadedd mwyaf (67.2%).
- Gostyngodd canran y rhai a gafodd sgrinio ymlediadau o 82.8% yn 2021-22 i 77.6% yn 2022-23.
- Cafodd 26,068 o ddynion cymwys eu gwahodd gan y rhaglen. O'r rhain, aeth 20,221 o ddynion i gael eu sgan cyntaf o dan y Rhaglen a chael canlyniad sgan diffiniol.
- O'r dynion a aeth i gael eu sgrinio, canfu'r rhaglen sgrinio ymlediad ymhlith 189 (0.9%).
- Roedd angen i 60 o ddynion a gafodd eu sganio gael atgyfeiriad i'r tîm amlddisgyblaethol rhwydwaith fasgwlaidd dewisol. Cafodd 83.3% ohonynt eu hatgyfeirio o fewn dau ddiwrnod gwaith i'r sgan.
- Cafodd 49 o ddynion lawdriniaeth agored neu endofasgwlaidd (d.s. mae hon yn garfan wahanol i'r dynion a gafodd eu sganio a'u hatgyfeirio yn y flwyddyn). Cafodd chwech (12.2%) o'r rhain eu llawdriniaeth wedi'i chwblhau o fewn pedair neu wyth wythnos i dderbyn yr atgyfeiriad, yn dibynnu ar faint yr ymlediad a ganfuwyd.
- Cynhaliwyd 1,079 (88.1%) o sganiau gwyliadwriaeth o fewn y safon (ymlediad canolig ar wyliadwriaeth chwarterol o fewn 11 i 15 wythnos i'w sgan llwyddiannus blaenorol, ymlediad bach ar wyliadwriaeth flynyddol o fewn 50 i 56 wythnos i'w sgan llwyddiannus blaenorol).
- Sgriniwyd 242 o ddynion a wnaeth hunanatgyfeirio, gan ganfod 12 o ymlediadau (5.0%).
Adroddiad llawn