Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad sgrinio eich babi - Cludydd Crymangelloedd


 

Cynnwys

― Canlyniad sgrinio eich babi
Cludwyr genynnau haemoglobin anarferol
― Beth mae'r canlyniad hwn yn ei olygu i'ch babi
― Beichiogrwydd yn y dyfodol a'ch teulu ehangach
― Rhagor o wybodaeth a chymorth
― Defnyddio eich gwybodaeth
 

Canlynaid sgrinio eich babi

Mae canlyniadau prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn dangos nad oes gan eich babi anhwylder y crymangelloedd.

Fodd bynnag, mae'r canlyniadau'n dangos bod eich babi'n gludydd crymangelloedd. Mae eich babi'n cludo un genyn ar gyfer crymangelloedd ac un genyn ar gyfer haemoglobin arferol. Mae hyn yn cael ei ysgrifennu fel Hb AS.

Haemoglobin yw'r sylwedd yn y gwaed sy'n cludo ocsigen o amgylch y corff.

Mae tua phedwar o fabanod sy'n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn â chanlyniad sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig cludydd crymangelloedd neu haemoglobin anarferol arall.

Mae'r wybodaeth hon yn esbonio beth mae bod yn gludydd genyn crymangelloedd yn ei olygu i'ch babi, i chi a'ch teulu ehangach.

 

Cludwyr genynnau haemoglobin anarferol

Mae babanod yn etifeddu nodweddion o enynnau eu rhieni. Er enghraifft, mae genynnau’n rheoli lliw eu croen, eu gwallt a'u llygaid.

Ar gyfer pob nodwedd, mae eich babi'n cael un genyn oddi wrth ei fam fiolegol ac un oddi wrth ei dad biolegol. Mae genynnau hefyd yn rheoli’r math o haemoglobin y mae'n ei etifeddu.

Mae llawer o wahanol fathau o haemoglobin, gan gynnwys crymangelloedd (neu haemoglobin S). Mae eich babi'n gludydd gan ei fod wedi etifeddu un genyn sy'n gwneud haemoglobin arferol gan un rhiant ac un genyn crymangelloedd gan y rhiant arall.

    Ni fydd eich babi byth yn datblygu anhwylder y crymangelloedd oherwydd iddo etifeddu un genyn arferol, ond bydd bob amser yn gludydd.

 

Beth mae'r canlyniad hwn yn ei olygu i'ch babi

   Cael teulu

Mae'n bwysig bod eich babi'n tyfu i fyny yn gwybod am fod yn gludydd crymangelloedd fel y gall feddwl am y risgiau sy'n gysylltiedig os bydd am gael teulu, a'r hyn y gall ei wneud i leihau'r risgiau hynny.

Pan fydd eich babi'n tyfu i fyny, gall ofyn i unrhyw bartner yn y dyfodol gael prawf i weld a yw hefyd yn gludydd genyn haemoglobin anarferol. Mae cwnsela'r GIG ar gael i esbonio'r risgiau a'r dewisiadau dan sylw.

Os bydd rhywun sy'n gludydd crymangelloedd yn cael babi â chludydd arall, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd eu plentyn yn etifeddu anhwylder y crymangelloedd (gweler y diagram isod). Mae angen triniaeth gydol oes ar bobl ag anhwylder y crymangelloedd.

Mae’r siawns a ddangosir yn y diagram uchod yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.

Gallai eu babi etifeddu dau enyn sy'n gwneud haemoglobin anarferol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd gan eu babi anhwylder haemoglobin. Mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd hyn yn digwydd.

Gallai eu babi etifeddu un genyn sy'n gwneud haemoglobin arferol ac un genyn sy'n gwneud haemoglobin anarferol. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn gludydd. Mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd hyn yn digwydd.

Gallai eu babi etifeddu dau enyn arferol. Os bydd hyn yn digwydd, ni fydd yn effeithio ar y babi. Mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd hyn yn digwydd.

Amddiffyn yn erbyn malaria

Mae bod yn gludydd y genyn crymangelloedd yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i blant yn erbyn malaria, ond dim ond yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf eu bywyd.

Mae’n bwysig bod eich plentyn yn cymryd yr holl gamau diogelu arferol os yw'n teithio i wlad lle mae risg o gael malaria. Mae’r camau hynny’n cynnwys cymryd cyffuriau gwrth-falaria.

Problemau iechyd prin i gludwyr crymangelloedd

Mewn sefyllfaoedd prin iawn, gall rhywun sy'n gludydd genyn crymangelloedd gael problemau iechyd, er enghraifft yn ystod anaesthetig cyffredinol os nad ydynt yn cael digon o ocsigen.

Dylech sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwybod bod eich plentyn yn gludydd crymangelloedd.

Dylai cludwyr crymangelloedd hefyd gymryd gofal ychwanegol mewn sefyllfaoedd lle gall fod diffyg ocsigen, fel plymio dyfnfor a dringo mynyddoedd. Mae hefyd yn bwysig iawn eu bod yn yfed digon o hylifau yn ystod ymarfer corff egnïol.

Ar wahân i'r sefyllfaoedd prin iawn hyn, gall cludwyr crymangelloedd fyw'n normal.

 

Beichiogrwydd yn y dyfodol a'ch teulu ehangach

Etifeddodd eich babi'r genyn crymangelloedd gennych chi neu'ch partner. Mae hyn yn golygu eich bod chi, tad eich babi neu'r ddau ohonoch hefyd yn gludwyr.

Rydym yn argymell eich bod chi a'ch partner yn cael prawf i ddarganfod pwy sy'n gludydd os nad oeddech eisoes wedi cael y wybodaeth hon yn ystod beichiogrwydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn ystyried cael babi arall. Os yw'r ddau ohonoch yn gludwyr, gallai eich babi nesaf gael anhwylder haemoglobin.

Mae’r prawf yn brawf gwaed sy’n cymryd ychydig funudau’n unig. I drefnu'r prawf, siaradwch â'ch meddyg teulu. Os ydych yn cael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS) byddant hefyd yn gallu trefnu'r prawf i chi.

Efallai y bydd yn syniad da annog aelodau eraill o'ch teulu, fel brodyr, chwiorydd, modrybedd, ewythrod a chefndryd, i gael prawf cyn iddynt ddechrau teulu rhag ofn eu bod yn gludwyr hefyd. Gall dangos y wybodaeth hon iddynt fod o gymorth.

Os hoffech drafod canlyniad cludydd crymangelloedd eich babi a chael rhagor o wybodaeth am sut y gallai effeithio ar feichiogrwydd yn y dyfodol, gallwch gael eich atgyfeirio i'r Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS). Siaradwch â'ch ymwelydd iechyd a fydd yn gallu trefnu hyn i chi.

 

Rhagor o wybodaeth a chymorth

  • Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru:

https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/sgrinio-smotyn-gwaed-newydd-anedig-cymru/ 

 

Defnyddio eich gwybodaeth

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o'r rhaglen, bydd angen i ni ymdrin â rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol chi a'ch babi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am hyn, gallwch:

Rydym hefyd yn cadw manylion personol i sicrhau bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys gwirio cofnodion eich babi os canfyddir bod gan eich babi gyflwr ar ôl cael prawf sgrinio a ddangosodd ganlyniad ‘dim achos a amheuir’.

Dim ond fel ystadegau rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ac nid ydym byth yn cyhoeddi manylion personol. Rydym yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i weithwyr iechyd proffesiynol neu sefydliadau y mae ei hangen arnynt, gan gynnwys eich meddyg teulu, ymwelydd iechyd a phediatregydd ymgynghorol. Rhaid i'r gweithwyr proffesiynol hyn ddiogelu'ch gwybodaeth bersonol yn yr un modd ag y byddwn ni.

Mae ein holl gofnodion papur a chyfrifiadurol yn cael eu storio a'u prosesu'n ddiogel, i ffwrdd o fynediad cyhoeddus.