Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad sgrinio eich babi - Cludydd Crymangelloedd

Mae'r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i rieni y mae prawf sgrinio smotyn gwaed eu baban newydd-anedig yn dangos ei fod yn gludydd clefyd y crymangelloedd (a elwir yn aml yn meddu ar 'nodwedd' neu ‘trait’).


 

Cynnwys

― Beth mae canlyniad prawf smotyn gwaed eich baban yn ei olygu?
Pam mae’n bwysig gwybod bod eich baban yn gludydd clefyd y crymangelloedd?
― Beichiogi yn y dyfodol a'ch teulu ehangach
― Sut mae canlyniad y prawf yn cael ei gofnodi?
― Ble i fynd i gael rhagor o wybodaeth?

 

Beth mae canlyniad prawf smotyn gwaed eich baban yn ei olygu?

Mae canlyniad prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig eich baban yn dangos ei fod yn gludydd clefyd y crymangelloedd. Er na fydd eich baban yn datblygu anhwylder y crymangelloedd, mae’n bwysig gwybod ei fod yn gludydd oherwydd y gallai hynny effeithio ar ei iechyd a sut y bydd yn cynllunio ei deulu ei hun yn y dyfodol.

 

Pam mae’n bwysig gwybod bod eich baban yn gludydd clefyd y crymangelloedd?

Ar achlysuron prin iawn, dylid cymryd gofal ychwanegol oherwydd statws cludydd clefyd y crymangelloedd eich baban. Os bydd eich baban angen anesthetig cyffredinol ar gyfer llawdriniaeth neu driniaeth ddeintyddol, gwnewch yn siŵr bod y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwybod ei fod yn gludydd clefyd y crymangelloedd.
 
Os yw eich plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol egnïol wrth iddo dyfu'n hŷn, dylai wneud yn siŵr ei fod yn yfed digon, ei fod yn cymryd seibiannau ac yn aros yn oer yn ystod y gweithgareddau.
 
Er bod cario’r genyn clefyd y crymangelloedd yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i'ch plentyn rhag malaria yn ystod ychydig flynyddoedd cyntaf ei fywyd, os bydd yn teithio i ardal lle mae malaria yn risg, dylai barhau i gymryd yr holl ragofalon a argymhellir. Mae hyn yn cynnwys cymryd meddyginiaeth gwrth-falaria.
 
Wrth i'ch plentyn dyfu, mae'n bwysig ei fod yn gwybod ei fod yn gludydd clefyd y crymangelloedd. Bydd yr wybodaeth hon yn ei helpu i ddeall y risgiau sy'n gysylltiedig â chael plant a sut y gellir lleihau'r risgiau hynny. Yn y dyfodol, cyn ystyried beichiogrwydd, efallai y bydd eisiau i'w bartner gael prawf i weld a yw hefyd yn cario genyn haemoglobin anarferol. Mae'r GIG yn cynnig cwnsela i esbonio'r risgiau posibl a'r opsiynau sydd ar gael.
 
 
Mae eich baban wedi etifeddu’r genyn clefyd y crymangelloedd naill ai gennych chi neu ei dad biolegol. Mae hyn yn golygu bod un ohonoch neu'r ddau ohonoch yn cario’r genyn hefyd. 
 
Rydym yn argymell eich bod chi a'r tad biolegol yn cael prawf i ddarganfod pwy sy'n gludydd, yn enwedig os na roddwyd yr wybodaeth hon i chi yn ystod eich beichiogrwydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi'n bwriadu cael mwy o blant, gan fod posibilrwydd y gallai eich plentyn nesaf fod ag anhwylder haemoglobin os yw'r ddau riant yn cario’r genyn. Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut y gallai hyn effeithio ar feichiogrwydd yn y dyfodol, gallwch ofyn am gael eich atgyfeirio at Wasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS). Gall eich ymwelydd iechyd eich helpu i drefnu hyn.
 
Efallai y bydd aelodau eraill o'r teulu, fel brodyr a chwiorydd, modrybedd, ewythrod a chefndryd eisiau ystyried cael eu profi cyn iddynt ddechrau teulu gan y gallent hefyd fod yn gludyddion. Gallai rhannu'r wybodaeth hon gyda nhw fod o gymorth iddynt.

 

Sut mae canlyniad y prawf yn cael ei gofnodi?

Mae canlyniad prawf eich baban yn cael ei gofnodi fel cludydd clefyd y crymangelloedd neu Hb AS. Mae'r llythyren A yn cynrychioli'r genyn haemoglobin A arferol, tra bod y llythyren S yn cynrychioli genyn clefyd y crymangelloedd.

 

Ble i fynd i gael rhagor o wybodaeth?

• GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y : Anhwylder clefyd y crymangelloedd