Ewch yn brydlon at eich bydwraig er mwyn cael help i wneud y dewisiadau gorau yn eich beichiogrwydd.
Y prif negeseuon
- Mae’r prawf sgrinio cyn-geni’n rhoi gwybodaeth bwysig i chi am eich iechyd chi ac iechyd eich babi.
- Trefnwch apwyntiad gyda bydwraig cyn gynted ag y byddwch yn dod i wybod eich bod yn feichiog.
- Byddwch chi’n cael gwybodaeth a fydd yn eich helpu i ddewis a fyddwch chi’n cymryd rhan yn y broses sgrinio cyn-geni.
- Fel rhan o’ch gofal cyn-geni arferol bydd y fydwraig yn rhoi gwybod i chi am y gwahanol brofion y gallwch chi eu cael a bydd yn ateb eich cwestiynau.
- Nid yw’r profion sgrinio cyn-geni’n gwbl gywir bob tro ac maen nhw’n gallu methu rhai cyflyrau.
- Ar ôl eich prawf sgrinio cyn-geni efallai byddwch chi’n cael cynnig o fwy o brofion a/neu driniaeth.
Mwy o wybodbaeth
Mae’r prawf sgrinio cyn-geni’n cynnwys:
- Sgrinio am syndrom Down, syndrome Edwards a syndrome Patau
- Profion gwaed sy’n chwilio am:
- Heintiau (HIV, Hepatitis B, Siffilis)
- Anhwylderau ar y gwaed (cryman-gell a thalasaemia)
- Grwpiau gwaed a gwrthgyrff
- Sganiau uwchsain sy’n chwilio am;
- Dyddiad y beichiogrwydd, nifer y babanod, annormaleddau yn y babi
- Mae canlyniadau’r mwyafrif o brofion yn normal.
- Efallai bydd gofyn ailadrodd rhai profion er mwyn cadarnhau’r canlyniad.
- Os bydd prawf sgrinio’n awgrymu y gallai fod problem neu gyflwr yn effeithio ar eich babi efallai byddwch chi’n cael cyfle i gael mwy o brofion a sganiau.
- Efallai bydd angen eich cyfeirio at feddyg arbenigol i gael eich monitro neu i gael triniaeth.
- Pan fydd rhai cyflyrau’n dod i’r amlwg, efallai byddwch chi’n wynebu gwneud dewisiadau anodd ynglyn â gadael i’ch beichiogrwydd barhau.