Bydd menywod sy'n feichiog yn cael cynnig profion sgrinio cyn-geni yn ystod eu beichiogrwydd i wirio eu iechyd ac iechyd y babi.
Bydd bydwraig yn esbonio'r gwahanol brofion y gallwch eu cael fel rhan o'ch gofal cynenedigol arferol. Gall sgrinio gynnwys sganiau uwchsain a phrofion gwaed. Mae'n bwysig penderfynu pa brofion, os o gwbl, sy'n iawn i chi.
Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio.
Am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth, siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg.
Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a'ch babi.
Mae’r prawf sgrinio cyn geni’n cynnwys:
Nid fydd angen profion pellach ar y myafrif o ferched. Fodd bynnag, os yw'ch prawf sgrinio yn awgrymu bod gennych chi, neu'ch babi siawns uwch o gawl cyflwr penodol, cynigir profion pellach.
Ymwelwch â'ch bydwraig yn gynnar i'ch helpu i wneud y dewisiadau gorau ar gyfer eich
beichiogrwydd.
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych sut a phryd y byddwch yn cael canlyniadau’ch profion.
Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych lle y gallwch gael y profion.
Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion sgrinio gwahanol. Eich dewis chi yw sgrinio. Gall fod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Nid yw rhai menywod am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi. Bydd eraill am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ar driniaeth neu, os oes canfyddiadau heb esboniad, i baratoi ar gyfer yr enedigaeth neu ystyried dod â’r beichiogrwydd i ben.
Cymerwch amser i feddwl cyn i chi benderfynu. Gallwch siarad am y profion â’ch bydwraig, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Pan fyddwch wedi dewis pa brofion rydych am eu cael, bydd y fydwraig yn gwneud trefniadau ar eich rhan.